Tŷ Amlfeddiannaeth - Gwneud Cais am Drwydded

Tŷ Amlfeddiannaeth
Crynodeb o'r Drwydded

Os ydych chi'n cynnig tŷ amlfeddiannaeth ar rent, mae'n bosibl y bydd angen trwydded arnoch gan eich awdurdod lleol.

Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid cyflwyno ceisiadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sef yr awdurdod tai lleol.

 

Y ffi yw £708.00 am drwydded 5 mlynedd.

 

Rhaid eich bod chi'n unigolyn addas a phriodol i ddal y drwydded.

Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad yn ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais

Rhoddir trwyddedau:

  • os yw'r tŷ yn addas ar gyfer amlfeddiannaeth, neu os gellir ei wneud yn addas ar gyfer amlfeddiannaeth
  • os yw'r ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol ac ef/hi sy'n fwyaf priodol i ddal y drwydded
  • os oes gan y rheolwr arfaethedig reolaeth dros y tŷ a'i fod yn unigolyn addas a phriodol i fod yn rheolwr
  • os yw'r trefniadau rheoli'n foddhaol
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni. Gallwch wneud hyn ar-lein os cyflwynoch y cais trwy wasanaeth UK Welcomes.

Sut i ymgeisio

Os ydych yn dymuno cofrestru tŷ amlfeddiannaeth neu newid manylion cofrestriad presennol, lawrlwythwch gopi o'r ffurflen gais o'r fan hon.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

 

Cewch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl.

 

Rhaid cyflwyno apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y penderfyniad.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

 

Cewch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl ynghylch amodau sydd ynghlwm wrth drwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddiddymu trwydded.

 

Rhaid cyflwyno apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y penderfyniad.

Apeliadau a Chwynion

Os rhoddir trwydded a'ch bod yn dymuno apelio yn erbyn hynny, cewch gyflwyno apêl i dribiwnlys eiddo preswyl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y penderfyniad.

Camau Unioni Eraill

E.e. sŵn, llygredd, ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Cymdeithasau Masnach

Ffederasiwn Eiddo Prydain (BPF)

 

Propertymark

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Public Health

Ffôn: 01633 648095

E-bost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig