Siopau Anifeiliaid Anwes

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith bod angen trwydded i werthu anifeiliaid anwes, p’un ai’n safle masnachol neu ddomestig, a hynny dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951.

Mae hyn yn golygu bod yn RHAID i unrhyw un sy'n gwerthu anifeiliaid anwes (heblaw ar gyfer rhai gweithgareddau eithriedig penodol, y gallwn eu hesbonio'n fanylach ar gais) gael trwydded gan yr awdurdod lleol cyn dechrau eu busnes.

Daw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau’n Ymwneud Ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 i rym o 10 Medi 2021. Bydd y rheoliadau hyn yn newid y gofynion trwyddedu ar gyfer gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes yng Nghymru, sy'n cynnwys y gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti masnachol. Cyhoeddir gwybodaeth bellach maes o law.

Mae awdurdodau lleol yn pwyso a mesur nifer o ffactorau wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid anwes, fel y gallwn sicrhau:

  • y bydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas, er enghraifft o ran tymheredd, maint, golau, awyr iach a glendid
  • y bydd bwyd a diod digonol yn cael eu rhoi i'r anifeiliaid ac yr ymwelir â nhw'n rheolaidd
  • na chaiff unrhyw anifeiliaid mamalaidd eu gwerthu'n rhy ifanc
  • y bydd camau'n cael eu cymryd i atal clefydau rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid
  • bod darpariaethau digonol ar waith os digwydd tân ac argyfyngau

Mae'r trwyddedau hyn yn helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn cael gofal priodol, trwy osod safonau ar gyfer y safle a lefel y gofal a roddir. Rydym yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd o ran diogelwch, a daw milfeddyg gyda ni lle y bo'n briodol i sicrhau y cyrhaeddir safonau lles anifeiliaid. Gellir ychwanegu amodau at drwydded i sicrhau cydymffurfiad â'r uchod. 

Os hoffech chi agor siop anifeiliaid anwes, a fyddech cystal â lawr lwytho’r ffurflen gaisAmodau Safonol a Rhestr Siop Anifeiliaid Anwes. Mae Gwybodaeth am ein ffioedd  hefyd ar gael.

Os ydych eisiau prynu anifail anwes, dylech wneud yn siwr bod trwydded yr awdurdod lleol yn cael ei harddangos gan y safle rydych chi'n prynu oddi wrtho, neu gallwch gysylltu â ni (drwy'r manylion isod) i gael manylion y safleoedd trwyddedig yn ardal Torfaen. Mae'n bwysig mai dim ond o safle trwyddedig rydych chi'n prynu eich anifail anwes, oherwydd rydym yn sicrhau bod yr anifeiliaid anwes o'r safleoedd hyn yn iach ac wedi cael eu mewnforio'n gyfreithlon neu eu bridio'n gywir, ac y byddwch yn cael cyngor da ar ofalu am eich anifail anwes.

Os ydych am wneud cwyn am wasanaeth a gawsoch gan siop anifeiliaid anwes, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch lles anifeiliaid ar safle trwyddedig, neu os ydych chi'n pryderu y gallai safle fod yn gwerthu anifeiliaid anwes heb drwydded, cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel bo'r angen. Rydym hefyd yn gallu bwrw golwg ar safonau gofal ar gyfer anifeiliaid anwes yn gyffredinol gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Diwygiwyd Diwethaf: 20/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Trwyddedu

Ffôn: 01633 647286

Ebost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig