Trwyddedau Anifeiliaid Gwyllt Peryglus

Nod Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 yw sicrhau bod unigolion preifat sy'n cadw anifeiliaid gwyllt peryglus yn gwneud hynny mewn amgylchiadau nad ydynt yn peri unrhyw risg i'r cyhoedd ac sy'n diogelu lles yr anifeiliaid. 

Pryd mae angen trwydded Anifeiliaid Gwyllt Peryglus? 

Mae anifeiliaid sy'n cael eu hystyried yn "anifeiliaid gwyllt peryglus" (sef unrhyw beth o Aligator i Ych Gwyllt), yn cael eu rhestru mewn atodlen i'r Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus.

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cadw un o'r anifeiliaid, hyn gael Trwydded gan yr awdurdod lleol. 

Nid yw'r weithdrefn drwyddedu hon yn berthnasol i anifeiliaid a gedwir mewn:

  • Sw yn ystyr Deddf Trwyddedu Swau 1981
  • Syrcas
  • Siop anifeiliaid anwes
  • Man sy'n sefydliad dynodedig o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986

Ystyrir bod unigolyn yn geidwad ar yr anifail os yw'r anifail yn ei feddiant. Bydd yn parhau i fod yn 'geidwad' ar yr anifail, ac felly'n gyfrifol amdano, hyd yn oed os yw'n dianc neu'n cael ei gludo rhywle ac ati. 

Cyn rhoi trwydded, bydd yr awdurdod lleol yn cynnal arolygiad gyda milfeddyg arbenigol, a rhaid iddynt fod yn fodlon bod amodau penodol ar gyfer 'anifail gwyllt peryglus', sy'n ymwneud â diogelwch a lles yr anifeiliaid, yn cael eu bodloni. Codir unrhyw ffioedd milfeddygol ar yr ymgeisydd. Bydd gofyn i chi hefyd fodloni gofyniad cyfreithiol Deddf Lles Anifeiliaid 2006.

Os hoffech gael trwydded i gadw anifail gwyllt peryglus, rhaid lawr lwytho’r ffurflenni cais a’r ffioedd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch lles anifail gwyllt peryglus, cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel y bo'r angen. Hefyd, gallwn fwrw golwg ar y safonau gofal ar gyfer pob anifail yn gyffredinol drwy ddefnyddio'n pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid, gan weithio mewn partneriaeth â'r RSPCA.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/12/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing

Ffôn: 01633 647263

Ebost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig