Sefydliadau Lletya Anifeiliaid a Chytiau Cŵn

Mae Deddf Lletya Anifeiliaid 1963 yn mynnu bod llawer o sefydliadau sy'n cynnig llety i anifeiliaid yn cael eu trwyddedu, pa un a ydynt ar safleoedd masnachol neu ddomestig

Mae hyn yn golygu bod RHAID i unrhyw un sy'n cynnig llety i gathod a chŵn er budd masnachol gael trwydded gan yr awdurdod lleol cyn cychwyn eu busnes, a'u bod yn cynnal eu trwydded tra'u bod yn rhedeg y busnes.

Mae'r trwyddedau hyn yn helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn cael gofal priodol, trwy osod safonau ar gyfer y safleoedd a lefel y gofal a roddir. Rydym yn arolygu diogelwch y safleoedd hyn yn rheolaidd a daw milfeddyg gyda ni i sicrhau bod y safle'n bodloni safonau lles anifeiliaid.

Os hoffech chi sefydlu busnes lletya cathod neu gŵn neu fusnes lletya yn eich cartref, yn cynnwys crèche a chyfleusterau chwarae, neu debyg, gallwch lawr lwytho’r ffurflenni cais a’r ffioedd. Mae’r drefn ar gyfer adnewyddu trwyddedau yn dilyn yr un broses ymgeisio gychwynnol.

Fel rhan o'r broses drwyddedu, rydym yn defnyddio amodau trwyddedu safonol. Mae'r rhain yn dangos y safonau y mae'n rhaid i bob math o safle eu cyflawni ac, ymhlith pethau eraill, maent yn sicrhau'r canlynol:

  • y bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas bob amser, gan ystyried gwneuthuriad a maint y llety, nifer yr anifeiliaid sydd i'w cadw ynddo, y cyfleusterau ar gyfer ymarfer yr anifeiliaid, a darpariaethau glendid a thymheredd, golau ac awyr iach 
  • y bydd bwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu, a chaiff yr anifeiliaid eu hymarfer lle y bo'n briodol ac yr ymwelir â nhw'n rheolaidd
  • y cymerir camau i atal a rheoli lledaeniad clefydau ymhlith anifeiliaid, a bod cyfleusterau cadw ar wahân ar gael
  • y caiff yr anifeliaid eu diogelu'n foddhaol os digwydd tân ac argyfyngau eraill
  • y cedwir cofrestr sydd ar gael i'w harchwilio ar unrhyw adeg gan un o swyddogion yr awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferydd
  • the person keeping the boarding establishment and lower fit person priodol

Yn dilyn proses ymgynghori, daeth amodau trwyddedu newydd i rym ar 15 Ebrill 2013. Mae'r amodau trwyddedu newydd hyn yn edrych nid yn unig ar strwythur yr adeilad, ond hefyd sut mae anifeiliaid yn derbyn gofal. Mae'r amodau hyn ar gael i'w lawr lwytho fel a ganlyn:

Dim ond cathod a chŵn sy'n dod o dan y ddeddfwriaeth lletya anifeiliaid ar hyn o bryd, ond rydym hefyd yn edrych ar safonau lletya ar gyfer anifeiliaid eraill mewn unrhyw safleoedd rydym ni'n eu harolygu.

Os ydych yn chwilio am lety i'ch cath neu gi, gwnewch yn siŵr fod y safle'n arddangos trwydded yr awdurdod lleol, neu gallwch gysylltu â ni i gael manylion safleoedd trwyddedig yn ardal Torfaen ar licensing@torfaen.gov.uk

Os ydych am wneud cwyn am wasanaeth a gawsoch gan wasanaeth llety cŵn neu gathod, rydym yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (a chael prawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn y Deyrnas Unedig, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch amodau lles ar safle trwyddedig, neu'n pryderu y gallai safle fod yn lletya cŵn neu gathod heb drwydded, rhowch alwad i ni neu anfon e-bost atom fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel y bo'r angen. Gallwn edrych ar safonau gofal ar gyfer anifeiliaid anwes heblaw am gathod a chŵn hefyd, gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/12/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing

Ffôn: 01633 647286

Ebost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig