Sŵau

Mae'r gyfraith yn mynnu bod unrhyw un sy'n rhedeg sŵ yn cael ei drwyddedu.

Mae'r trwyddedau hyn yn helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn cael gofal priodol trwy osod safonau ar gyfer y safle a lefel y gofal a roddir. Rydym yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd, a daw milfeddyg gyda ni i sicrhau bod safonau lles anifeiliaid yn cael eu bodloni. 

Yn ôl y diffiniad yn Neddf Trwyddedu Sŵau 1981, mae sŵ yn "sefydliad lle y caiff anifeiliaid gwyllt eu cadw i'w harddangos i'r cyhoedd heblaw at ddiben syrcas a heblaw fel siop anifeiliaid anwes; ac mae'r Ddeddf hon yn berthnasol i unrhyw sŵ y gall y cyhoedd ymweld â hi, am dâl mynediad neu am ddim, ar fwy na saith diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol". 

Er mai prif nod trwyddedu yw amddiffyn lles anifeiliaid, byddwn hefyd yn cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch er mwyn helpu i amddiffyn diogelwch ymwelwyr. 

A fyddech cystal â lawr lwytho’r ffurflenni cais a’r Amodau Safonol. Mae Gwybodaeth am ein ffioedd hefyd ar gael 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am amodau lles anifeiliaid mewn sŵ, neu os ydych yn pryderu efallai bod safle'n gweithredu fel sŵ heb drwydded, cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel bo'r angen. Gallwn hefyd fwrw golwg ar safonau gofal ar gyfer anifeiliaid yn gyffredinol, gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing

Tel: 01633 647286

Email: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig