Trwyddedau Symud Anifeiliaid

Yn sgîl yr achosion o glwy'r traed a'r genau, cafodd cyfundrefn drwyddedu drylwyr ei chyflwyno ynglŷn ag Iechyd Anifeiliaid i reoli'r trefniadau ar gyfer cadw a symud amrywiaeth o anifeiliaid.

Mae ein swyddogaeth Iechyd Anifeiliaid yn cael ei gyflawni gan Dîm Iechyd y Cyhoedd, sydd hefyd yn delio â Thrwyddedau Symud Anifeiliaid yn Nhorfaen – dyma eu manylion cyswllt:

E-bost: public.health@torfaen.gov.uk
Ffôn: 01633 647622

Daliadau Anifeiliaid

Rhaid i unrhyw un sy'n cadw neu'n dymuno cadw gwartheg, defaid, geifr neu foch wneud cais i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) am rif daliad.

Pan dderbynnir y rhif hwn, gall anifeiliaid gael eu symud i'r safle neu oddi yno drwy'r dull a ddisgrifir ar ardal Rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd ynghylch symud anfasnachol anifeiliaid anwes ar wefan DEFRA.

Symud Anifeiliaid

Erbyn hyn, mae trwydded gyffredinol yn rheoli symud gwartheg, ceirw, defaid, geifr a moch. Mae mesurau bioddiogelwch yn berthnasol i'r holl ddaliadau y caiff anifeiliaid eu symud iddynt, ac mae cyfnod o wahardd symud yn berthnasol lle y mae'n rhaid cadw anfeiliaid penodol mewn un lleoliad ar ôl eu symud fel bod modd canfod a thrin unrhyw glefyd.

Mae'r amodau sy'n berthnasol i'r cyfyngiadau hyn ar symud yn amrywio yn ôl y math o anifail, ei gyrchfan, y math o daith a'r wybodaeth ddiweddaraf am glefydau ac ati. Mae hyn yn golygu bod yr amodau'n cael eu haddasu'n gyson, felly mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r amodau diweddaraf wrth wneud cais am drwydded symud.

Mae gwybodaeth am drwyddedau symud anifeiliaid ar gael ar ardal Iechyd Anifeiliaid gwefan DEFRA.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Iechyd Anifeiliaid
Ffôn: 01633 647622

E-bost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig