Pwy rydyn ni'n eu cefnogi?

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn cefnogi gofalwyr di-dâl dan 18 oed. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio gofalwyr ifanc yn ‘blant a phobl ifanc sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â phroblemau iechyd meddwl neu’r rheiny y mae camddefnyddio sylweddau wedi effeithio arnynt’.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Mae gan gynghorau gyfrifoldeb am les gofalwyr ifanc a rhaid iddynt sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol. Yn Nhorfaen, rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr ifanc yn ei chwarae ac rydym yn darparu cefnogaeth a chyfleoedd hamdden i alluogi gofalwyr ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chysylltiadau cymdeithasol sy'n briodol i'w hoedran..

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn cefnogi dros 140 o ofalwyr ifanc. Aseswyd anghenion y gofalwyr ifanc hyn ac mae cefnogaeth yn cael ei darparu. Gall y gefnogaeth gynnwys;

  • Cefnogaeth un i un
  • Grwpiau cymdeithasol
  • Hyfforddiant
  • Gweithgareddau Preswyl a theithiau
  • Rhywun i siarad ag ef, er mwyn lleihau pryder, straen ac unigedd
  • Seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu ac i gwrdd â gofalwyr ifanc eraill

Gyda phwy arall y mae’r gwasanaeth yn gweithio?

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r:

  • Gwasanaeth Ieuenctid
  • Adran Chwarae Torfaen
  • Adran Datblygu Chwaraeon
  • Cyngor Ieuenctid Pont-y-pŵl
  • Sefydliadau trydydd sector eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Honeypot, i gael canlyniadau gwell i'n gofalwyr ifanc.

Mae rhagor o fanylion am y partneriaethau uchod a pha gymorth sydd ar gael, yn ogystal â'r broses i gael mynediad i'r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc ar gael ar ein Taflen Wybodaeth i Bobl Ifanc.

I blentyn gael eich ystyried yn Ofalwr Ifanc, rhaid iddo fodloni’r 3 maen prawf a ganlyn:

  1. Maent o dan 18 oed
  2. Maent yn gofalu neu’n rhoi cefnogaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y byddai'n rhesymol ei ddisgwyl i rywun o'u hoedran
  3. Maent yn gofalu am rywun sydd ag anabledd, salwch, neu broblem sylweddol o ran camddefnyddio sylweddau

Mae'r meini prawf hyn yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cymorth yn cael ei gyfeirio at blant y mae eu cyfrifoldebau gofalu yn cael effaith ystyrlon ar eu lles a'u bywyd bob dydd, gan eu gwahaniaethu oddi wrth blant sy'n rhoi cymorth nodweddiadol, sy'n briodol i'r oedran o fewn y teulu.

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlentyn/teulu ac yn dymuno atgyfeirio at y Gwasanaethau Cymorth i Ofalwyr Ifanc, a fyddech cystal â llenwi Ffurflen Atgyfeirio ar gyfer Gofalwr Ifanc yn Nhorfaen a’i hanfon mewn e-bost at y Tîm Gofalwyr Ifanc yn youngcarers@torfaen.gov.uk

Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc (Cynllun Cerdyn)

Cerdyn adnabod â llun, dwy flynedd, am ddim, a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i ofalwyr ifanc dan 18 oedd yw’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc. Mae’n cadarnhau fod gan y deiliad gyfrifoldebau gofalu, gan eu helpu i gyflwyno eu hunain i bobl broffesiynol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg heb yr angen i esbonio manylion personol am eu rôl gofalu.

Mae’r cerdyn yn rhan o ddull Cymru gyfan a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’i ddatblygu trwy bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac awdurdodau lleol, gyda’r bwriad o wella profiadau gofalwyr ifanc mewn gwasanaethau allweddol.

Gwneud cais am gerdyn ID gofalwr ifanc (gofalwr) (yn agor mewn tab newydd)Gwneud cais am gerdyn ID gofalwr ifanc (gwarcheidwad) (yn agor mewn tab newydd)

Gwasanaethau Cymdeithasol (Plant)