Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Os ydych chi’n edrych ar ôl cymar, neu berthynas neu ffrind sydd yn sâl neu’n anabl (ac nid ydych yn cael eich cyflogi i wneud) rydych yn ofalwr hyd yn oed os nad ydych yn meddwl amdanoch chi’ch hun felly.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch ofalu am rywun.

P’un ai ydych chi wedi gofalu am rywun ers amser hir, efallai yn ystyried rhoi cymorth i rywun sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd a sydd nawr yn paratoi at ddod adref. Nod y tudalennau yma yw eich cefnogi chi i ystyried yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Os ydych yn ystyried eich hun yn ofalwr fe allwch chi ofyn am asesiad – yn yr un modd ag y gall yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdano/amdani ofyn am asesiad.

Efallai y bydd Hwb Gofalwyr Torfaen o gymorth i chi – mae’r hwb yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd ac mae hi ar agor i bawb p’un ai ydych chi’n dewis cael asesiad ai peidio.

Gall rhai gofalwyr hawlio Lwfans Gofalwr, mae gan wefan gov.uk (yn agor mewn tab newydd)fwy o wybodaeth. Does dim rhaid cael asesiad er mwyn derbyn lwfans gofalwyr.

Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion)