Cronfa Cymorth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnig grantiau un-tro i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn Nhorfaen i helpu gyda'r argyfwng costau byw.

Gall gofalwr fod yn unrhyw un, o unrhyw oedran, sy'n gofalu ac yn cynorthwyo perthynas, ffrind neu gymydog sy'n anabl, yn gorfforol neu'n feddyliol sâl, neu y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt, a hynny heb dâl.

Categorïau y gellir gwneud cais amdanynt:

  • Grant bwyd
  • Offer bach ar gyfer y cartref, sy’n arbed ynni (microdon, ffwrn ffrio neu bopty pwyll)
  • Dillad
  • Ffôn symudol

Gwneud cais

Bydd y grant ar agor yn ystod Mehefin, Awst, Hydref a Rhagfyr (tan i’r cyllid gael ei ddefnyddio’n llawn). Pan fydd y grant ar agor, bydd yn cael ei hysbysebu ar ein tudalen Facebook Gofalwyr Sy’n Oedolion (yn agor mewn tab newydd).

Er mwyn osgoi gordanysgrifio, rydyn ni wedi dyrannu swm penodol bob tro y bydd y grant yn cael ei lansio. Pan fyddwn yn cyrraedd ein swm, bydd y cynllun grant yn cau tan y mis nesaf.

SYLWER: Os ydych wedi derbyn grant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ers mis Mehefin 2024, ni fydd gennych hawl i ailymgeisio.

Gwneud cais am Grant Cronfa Cymorth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Mae copïau papur ar gael ar gais. Anfonwch e-bost i carersupport@torfaen.gov.uk os oes angen copi papur arnoch.

Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion)