Rydym yn ymfalchïo'n fawr yn ein bwydlenni, sydd wedi’u datblygu gan ein Rheolwyr Arlwyo, cogyddion a deietegwyr mewnol i sicrhau bod prydau yn ddeniadol, yn gytbwys o ran maeth ac yn cynnig gwerth da am arian. Mae'r disgyblion yn cael cynnig pryd o fwyd poeth cytbwys y dydd gyda phwdin, ac mae dŵr ffres ar gael bob amser. Mae'r bwydlenni'n canolbwyntio'n gryf ar ffrwythau, llysiau a salad ffres, ac mae amrywiaeth helaeth o opsiynau ar gyfer y bar salad ar gael bob dydd fel dewis arall yn lle pryd bwyd poeth y dydd sy'n golygu bod llawer o ddewis ar gyfer pryd o fwyd y bydd y plant yn ei fwynhau. Mae ein bwydlenni wedi'u cynllunio i fodloni Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer ciniawau ysgol ac maen nhw’n cynnwys tua thraean o ofynion maethol dyddiol disgyblion ar gyfartaledd.
Faint y mae prydau ysgol yn ei gostio?
Prisiau presennol y prydau yw:
- Babanod - AM DDIM
- Iau - AM DDIM
- Hŷn - £2.60
Gall teuluoedd ar incwm isel fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Beth sydd ar y fwydlen heddiw?
Bwydlen Gynradd
Mae ein bwydlen gynradd yn gweithredu ar draws pob ysgol gynradd yn Nhorfaen.
I gael gwybodaeth fanylach, gan gynnwys lluniau o seigiau, adborth gan ddisgyblion a sylwadau ein deietegydd ar bob pryd, cliciwch ar yr wythnos berthnasol ar y cylch bwydlenni isod:
- Amserlen y Fwydlen Gynradd
- Bwydlen Gynradd Wythnos 1
- Bwydlen Gynradd Wythnos 2
- Bwydlen Gynradd Wythnos 3
- Bwydlen Gynradd Wythnos 4
- Fwydlen Ysgolion Cynradd (yn agor mewn tab newydd)pdf file[2.46MB]
Bwydlen Uwchradd
Mae ein bwydlen uwchradd yn gweithredu yn Ysgol Abersychan ac Ysgol Gyfun Gwynllyw. Ar gyfer ysgolion Uwchradd eraill Torfaen, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol er gwybodaeth.
- Fwydlen Ysgolion Uwchradd (yn agor mewn tab newydd)pdf file[1.98MB]
- Rhestr Brisiau Ysgolion Uwchradd (yn agor mewn tab newydd)pdf file[1.4MB]