Trosolwg
Os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad plentyn yn yr ysgol, efallai y byddan nhw'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Os yw eich plentyn yn yr ysgol gynradd, byddai hyn yn cynnwys un cinio am ddim y dydd. I’r plant hynny yn yr ysgol uwchradd, byddai hyn yn cynnwys lwfans dyddiol i dalu am eu cinio.
Mae'r wybodaeth am bwy sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn breifat.
Mae prydau ysgol am ddim wedi newid
Bydd angen i rieni a gwarcheidwaid cymwys wneud cais am y Cynllun Prydau Ysgol am Ddim.
Ers cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i Blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) (yn agor mewn tab newydd), bydd pob plentyn mewny sgol gynradd yn Nhorfaen yn eu derbyn erbyn hyn.
Gwneud cais am eFSM i dderbyn cefnogaeth ychwanegol
Dylech wneud cais am eFSM o hyd os ydych ar incwm isel oherwydd:
- gallech fod yn gymwys i gael cymorth arall, fel y Grant Hanfodion Ysgol
- gallai eich ysgol gael mwy o arian
Pwy sy’n gymwys
Efallai eich bod yn gymwys os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol gynradd ac yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Pensiwn
- Cymorth dan Ddeddf Mewnfudo a Cheiswyr Lloches 1999
- Credyd Cynhwysol
Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, rhaid i enillion eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau.
Gwneud cais
Gwnewch gais am eFSM os ydych yn gymwys hyd yn oed os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol Am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn barod.
Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg.
I wneud cais, bydd angen eich:
- eich manylion cyswllt
- manylion eich plentyn
- enw ysgol eich plentyn
- rhif Yswiriant Gwladol (os yw ar gael)
Camau nesaf
Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau os a phryd y bydd eich plentyn yn dechrau derbyn prydau ysgol am ddim.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu os oes angen help arnoch i wneud cais, gallwch gysylltu â'r Tîm Refeniw a Budd-daliadau.
Gallwch hefyd gysylltu â'ch ysgol os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch i wneud cais.