Mae rôl llywodraethwyr ysgolion wedi dod yn fwyfwy pwysig wrth fod disgwyl i gyrff llywodraethol wneud penderfyniadau strategol ar gyfer dyfodol eu hysgolion.
Mae llywodraethwyr yn chwarae rôl allweddol wrth arwain, cefnogi a gwella ysgolion. Maen nhw’n ddiduedd ac yn gwneud penderfyniadau ysgolion gyda’r bwriad o wella’r ysgol. Wrth wneud hyn, maen nhw’n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u cyfleoedd yn y dyfodol.
Y prif gategorïau o lywodraethwyr ysgol yw:
- Llywodraethwyr cymunedol – sy’n cael eu penodi gan gorff llywodraethol yr ysgol i gynrychioli’r gymuned. Yn ddelfrydol, dylen nhw fod yn byw neu’n gweithio yn ardal cymuned yr ysgol.
- Rhiant-lywodraethwyr – rhieni plant sydd yn yr ysgol. Pleidleisir drostynt i fod ar y corff llywodraethol gan rieni eraill plant sydd yn yr ysgol.
- Llywodraethwyr awdurdod lleol – sy’n cael eu penodi gan yr awdurdod lleol.
- Llywodraethwyr o blith athrawon a staff – sy’n cael eu hethol i’r corff llywodraethol gan y staff perthnasol yn yr ysgol.
Mae yna gategorïau eraill o lywodraethwyr, gan ddibynnu ar y math o ysgol a’i chyfansoddiad. Gall nifer y llywodraethwyr sydd ym mhob categori amrywio, gan ddibynnu ar y math o ysgol a mwyafswm nifer y disgyblion y mae modd i’r ysgol eu derbyn.
Bod y llywodraethwr ysgol
Does dim angen unrhyw gymwysterau arbennig i fod yn llywodraethwr ysgol gan y byddwch yn cael hyfforddiant am ddim, ond mae angen i chi fod â:
- diddordeb yn nyfodol ein plant
- awydd i wneud gwahaniaeth
- amser ac egni
- parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb
- ymrwymiad i weithio mewn tîm
- brwdfrydedd i ofyn cwestiynau, gwrando a dysgu
- ysgogiad i helpu i ffurfio dyfodol addysg ym Mwrdeistref Sirol Torfaen.
Unwaith y byddan nhw wedi eu penodi, mae cyfnod llywodraethwr yn eu swydd yn parhau am bedair blynedd. Byddai disgwyl i chi fynd i dri chyfarfod o’r corff llywodraethol ym mhob blwyddyn ysgol, un ym mhob tymor, a chyfarfodydd pwyllgor, ble mae hynny’n berthnasol.
Mae’r rhan fwyaf o gyrff llywodraethol yn cyfarfod ddwywaith y tymor, cyfanswm o 6 gwaith y flwyddyn.
Gwnewch gais i fod yn rhiant-lywodraethwr
Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn rhiant-lywodraethwr, cysylltwch yn uniongyrchol â’r ysgol
Dod o hyd i’ch ysgol leolGwnewch gais i fod yn llywodraethwr cymunedol
Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn llywodraethwr cymunedol, cwblhewch gopi o’r ffurflen gais llywodraethwyr cymunedol a’i dychwelyd i’r ysgol y mae gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr ynddi trwy.
Gwnewch gais o fod yn llywodraethwr awdurdod lleol
Os oes diddordeb gyda chi mewn bod yn llywodraethwr awdurdod lleol, cwblhewch gopi o’r ffurflen gais llywodraethwyr awdurdod lleol.
Mae cyfyngiad amser ar geisiadau ac, felly, rhaid i unrhyw geisiadau gael eu derbyn gan yr awdurdod lleol erbyn y dyddiadau a nodir.
Gwasanaeth Cefnogi a Datblygu Llywodraethwyr
Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn cynnig hyfforddiant gorfodol a strategol i lywodraethwyr, yn ogystal â chyngor a chefnogaeth.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (yn agor mewn tab newydd)