Rhaid talu am brydau ysgol a gweithgareddau'r ysgol ar-lein gan ddefnyddio Civica Pay Education.
Gwneud taliad ysgol (yn agor mewn tab newydd)Important changes
O ganlyniad, bydd yr ysgol yn symud i ParentPay ar ôl Hanner Tymor ar gyfer taliadau ar-lein.
Er mwyn helpu i sicrhau bod y newid hwn yn digwydd mor llyfn â phosibl, nodwch y dyddiadau a'r wybodaeth bwysig a ganlyn.
Yr hyn sydd ei angen i chi wybod
- O brynhawn dydd Iau, 22 Hydref, ni fyddwch bellach yn gallu ychwanegu arian at eich cyfrif Civica Education Payments.
- Gwnewch yn siŵr bod digon o arian ar gael i brynu prydau bwyd ddydd Gwener 23 Hydref.
- Byddwch yn cael e-bost ar wahân, sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru ar ParentPay.
- Rydym yn eich annog i gofrestru cyn gynted â phosibl ar ParentPay.
Balansau Arlwyo
Bydd unrhyw falans sy’n weddill ar y pryd i dalu am brydau bwyd yn cael ei drosglwyddo i ParentPay. Rydym yn disgwyl i'r trosglwyddiad hwn gael ei gwblhau erbyn 2 Tachwedd.
Os ydych chi'n cofrestru cyn y dyddiad hwn, peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gallu gweld y balans blaenorol ar unwaith yn ParentPay.
Bydd unrhyw daliadau newydd fydd yn cael eu gwneud ar ParentPay cyn 2 Tachwedd yn ymddangos ar eich cyfrif ond efallai na fyddant ar gael i'w gwario tan i’r broses trosglwyddo gael ei chwblhau.
Teithiau a Digwyddiadau
O 22 Hydref, ni fyddwch bellach yn gallu talu am deithiau neu ddigwyddiadau ar Civica Education Payments.
Bydd yr ysgol yn trosglwyddo unrhyw falans sy’n weddill i dalu am deithiau neu ddigwyddiadau i ParentPay. Unwaith y bydd y rhain yn ymddangos yn eich cyfrif ParentPay, byddwch yn gallu parhau i wneud taliadau fel arfer.
Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth wrth i ni newid i’r system newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â swyddfa'r ysgol.