Gwobr Dug Caeredin (DofE)

Duke of Edinburgh Award Logo

Sefydlwyd Gwobr Dug Caeredin (DofE) gan ei noddwr, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, yn 1956. Mae'r wobr yn rhaglen wirfoddol, anghystadleuol a gydnabyddir yn genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer unrhyw un 14-24 oed.

Mae gwneud y DofE yn rhoi cyfle i bobl ifanc brofi gweithgareddau newydd neu ddatblygu sgiliau ac mae i'r wobr enw da ymysg cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch. Mae tair lefel gynyddol sy'n arwain at wobrau efydd, arian neu aur os ydych yn eu cwblhau'n llwyddiannus.

Nod DofE yw rhoi profiad bywyd i bobl ifanc a chodi eu huchelgeisiau trwy helpu eraill, dod yn fwy ffit, dysgu neu ddatblygu sgiliau ymarferol neu gymryd rhan mewn taith fythgofiadwy.

Mae pobl ifanc yn creu eu rhaglen DofE bersonol tu allan i'r ysgol/astudiaeth neu waith a gall unrhyw un sydd â'r cymhelliant a'r ymroddiad i lwyddo ennill gwobr, pwy bynnag ydych chi neu o ble bynnag y dewch!

Mae wedi'i theilwra i weddu'r unigolyn ac mae'n datblygu sgiliau cymdeithasol fel gwaith tîm, annibyniaeth, cyfrifoldeb, parch tuag at eraill a'u hamgylchedd, ynghyd â sgiliau ymarferol fel cynllunio, llywio, arwain a datrys problemau. Ond y peth pwysicaf oll yw cael hwyl!

Er mwyn cyflawni gwobr DofE, bydd pobl ifanc yn cymryd rhan ym mhob un o'r adrannau canlynol am ryw awr yr wythnos:

Gwirfoddoli (helpu eraill) – e.e. bod yn arweinydd brownis/cybiaid, hyfforddi chwaraeon, codi arian i elusen, gwaith cadwraeth, helpu unigolyn hŷn, darllen gyda ffrind.

Corfforol (dod yn fwy ffit) – e.e. nofio, pêl-droed, cerdded, dringo, canwio, tae kwando, golff, dawnsio, bwrdd sgrialu.

Sgiliau (diddordebau ymarferol) – e.e. coginio, pysgota, gwaith coed, chwarae offeryn, dysgu iaith newydd, achub bywydau, drama, tyfu llysiau, chwarae pŵl.

Hirdaith – efydd am 2 ddiwrnod ac 1 noson, arian am 3 diwrnod a 2 noson ac aur am 4 diwrnod a 3 noson. Mae teithiau ar droed fel arfer, ond gallech fod yn canwio, beicio, hwylio neu hyd yn oed marchogaeth ceffyl. Byddwch yn gwersylla dros nos ac yn cario popeth fydd arnoch ei angen ar gyfer y daith.

Preswyl (ehangu profiadau diwylliannol - lefel aur yn unig) – e.e. helpu mewn gwersyll haf, ymuno â grŵp adfer camlas, cwrs ffotograffiaeth, hwylio ar longau hyfforddi.

Lefelau DofE

Efydd – yr oedran isaf yw 14 gydag o leiaf 6 mis o ymroddiad

Arian – yr oedran isaf yw 15 gydag o leiaf 12 mis o ymroddiad

Aur – yr oedran isaf yw 16 gydag o leiaf 18 mis o ymroddiad

Peidiwch â derbyn ein gair ni - dyma beth mae rhai pobl ifanc DofE yn ei ddweud

‘Gwnes i fwynhau pob agwedd ar y wobr ond roedd y cyfarfodydd yn arbennig o hwyl a dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau.’ 'Dw i wedi dysgu am fi fy hun'. 'Ni fyddaf yn teimlo siom bellach wrth awgrymu syniadau' a 'Dw i'n gallu gweithio'n dda mewn tîm' (rhywun o'r Gwasanaeth Ieuenctid).

‘Dechreuais ymddiddori mewn cadw'n heini a gwella fy sgiliau chwaraeon’ (disgybl o Ysgol Croesyceiliog).

’Roedd yr hirdaith ac aros dros nos yn hwyl, yn llawn her ac yn saib o fywyd yr ysgol. Dysgais fy mod yn gallu ymdopi i ffwrdd o adref a chydweithredu ag eraill' (disgybl o Ysgol Abersychan).

... mae'r antur yn dechrau yma felly cysylltwch â ni a gallwn eich rhoi chi ar ben ffordd antur eich bywyd!

Ble i gymryd rhan ac â phwy i gysylltu

Ble i gymryd rhan ac â phwy i gysylltu
Canolfan DofELefel(au)Enw cyswlltRhif ffôn
Ysgol AbersychanEfyddAlice Few01495 773068
Ysgol CroesyceiliogEfyddMr J Morgan01633 645900
Ysgol CrownbridgeEfyddMr M Williams01633 624201
Ysgol Uwchradd CwmbranEfyddCaroline Payne01633 643950
Uned Cyfeirio DisgyblionEfyddLuke Dempsey01495 742859
Ysgol Uwchradd Babyddol St AlbanEfyddHolly Griffin01495 765800
Ysgol West MonmouthEfyddJulie Pitt01495 762080
Canolfan DofE Agored y Gwasanaeth IeuenctidArian, AurDan Warren07980682840
Ysgol Gyfun GwynllywEfyddSiwan Burrell01495 750405