Beth yw Canllawiau Cynllunio Atodol
Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yn ddogfennau a gynhyrchir gan y Cyngor i roi arweiniad i'r cyhoedd, ymgeiswyr a datblygwyr wrth wneud ceisiadau cynllunio. Mae'r CCA yn darparu gwybodaeth atodol mewn perthynas â'r polisïau yn y Cynllun Datblygu lleol a fabwysiadwyd ar gyfer Torfaen. Mae'n fodd o gynnig canllawiau thematig neu fanylach o ran sut y bydd y polisïau hyn yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau neu ardaloedd penodol. Mae CCA yn un o'r 'ystyriaethau materol' y rhoddir ystyriaeth iddynt wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio neu apeliadau.
Gall y CCA fod ar ffurf y canlynol:
- Canllawiau penodol ynghylch bioamrywiaeth neu ddyluniad blaen siop
- Canllawiau'n ymwneud â safleoedd penodol, fel fframweithiau datblygu neu briffiau datblygu; a
- Chanllawiau neu drothwyon rhifiadol a allai newid yn ystod oes y cynllun, fel safonau meysydd parcio, er mwyn osgoi i'r cynllun cyfredol fynd yn hen yn rhy gyflym. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys y meysydd hynny lle y mae'r targedau hyn yn bolisi allweddol, fel targedau ar gyfer darpariaeth tai yn y dyfodol
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Mae Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Datblygu Lleol Torfaen ar Gyfarwyddyd Cynllunio Atodol (CCA) a’r Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) ar gael yma.
Rhestr o’r Canllawiau Cynllunio Atodol a Fabwysiadwyd
- CCA Seilwaith Gwyrdd (yn agor mewn tab newydd)
- CCA Seilwaith Gwyrdd (Crynodeb Gweithredol (yn agor mewn tab newydd))
- CCA Bioamrywiaeth, Gwytnwch Ecosystemau a Datblygu (yn agor mewn tab newydd)
- CCA Bioamrywiaeth, Gwytnwch Ecosystemau a Datblygu (Crynodeb Gweithredol) (yn agor mewn tab newydd)
- Crynodeb Gweithredol Lleoliadau Cynaliadwy (yn agor mewn tab newydd)
- CCA Dylunio Safle, Uwchgynllunio a Datblygu Briff (yn agor mewn tab newydd)
- CCA Dylunio Safle, Uwchgynllunio a Datblygu Briff (Crynodeb Gweithredol) (yn agor mewn tab newydd)
- I hwyluso'r defnydd ohonynt, mae'r atodiadau unigol hefyd ar gael i'w lawrlwytho o'r dolenni isod:
- Atodiad 1: Tai Fforddiadwy (yn agor mewn tab newydd)
- Atodiad 2: Priffyrdd a Thrafnidiaeth (yn agor mewn tab newydd)
- Atodiad 3: Cyfleusterau Addysg (yn agor mewn tab newydd)
- Atodiad 4: Adfywio a Chyfleusterau Cymunedol (yn agor mewn tab newydd)
- Atodiad 5: Bioamrywiaeth, Geoamrywiaeth a Gwytnwch Ecolegol (yn agor mewn tab newydd)
- Atodiad 6: Hamdden a Mannau Agored Cyhoeddus (yn agor mewn tab newydd)
- Templed Cytundeb Adran 106 (yn agor mewn tab newydd)
- Templed Ymgymeriad Unochrog (yn agor mewn tab newydd)
- Cynllunio Diweddaredig Canllawiau Cynllunio Atodol (Crynodeb Gweithredol) (yn agor mewn tab newydd)
- CCA Estyn a Chreu Newidiadau i Dŷ (yn agor mewn tab newydd)
- Canllaw Dylunio ar gyfer Safle Treftadaeth Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon (yn agor mewn tab newydd)
- Canllawiau Dyluniad Blaen Siop Traddodiadol (yn agor mewn tab newydd)
- Canllawiau Dylunio Preswyl a Diwydiannol CBST (ar gyfer adeiladu priffyrdd) – oherwydd maint y ffeil, mae’r CCA wedi cael eu rhannu yn 3 rhan fel a ganlyn:
- Nodwch – mae gwasanaeth priffyrdd y Cyngor yn defnyddio dogfen o’r enw ‘Manual for Streets 2, 2010’ gan Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (yn agor mewn tab newydd), a lle nad yw’r ddogfen honno’n cynnwys darpariaeth ar gyfer cwestiwn penodol mae’n cyfeirio at y Canllawiau Dylunio hyn. Y bwriad yw diweddaru’r CCA gyda ‘Chanllawiau Dylunio Strydoedd’ maes o law.
- CBST/CSS Cymru: Safonau Parcio Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Rhestr o Ddogfennau Ategol / Cefndir a Gyhoeddwyd
- Cynllunio a Bioamrywiaeth ar gyfer deiliaid tai a mân geisiadau eraill (yn agor mewn tab newydd)
- Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Cwmafon (yn agor mewn tab newydd)
- Cynigion Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Camlas Mynwy ac Aberhonddu (yn agor mewn tab newydd)
- Ardal Gadwraeth Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu - Map Ffiniau (yn agor mewn tab newydd)
- Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Canol Tref Blaenafon (yn agor mewn tab newydd)
- Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Canol Tref Blaenafon (Crynodeb Gweithredol) (yn agor mewn tab newydd)
- Cynllun Arfarnu a Rheoli Ardal Gadwraeth Pont-y-pŵl (yn agor mewn tab newydd)
- Asesiad Seilwaith Gwyrdd Torfaen (yn agor mewn tab newydd)
- Asesiad Seilwaith Gwyrdd Torfaen (Crynodeb Gweithredol) (yn agor mewn tab newydd)
- Asesiad Mannau Agored Torfaen (i ddilyn)
Map rhyngweithiol
I gefnogi rhai o'n dogfennau CCA, rydym wedi llunio map rhyngweithiol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen – Cynllun Lleol: Uwchgynllunio (opus4.co.uk) (yn agor mewn tab newydd). Ar hyn o bryd mae’n berthnasol yn benodol i’r CCA Seilwaith Gwyrdd a fabwysiadwyd ar 27 Chwefror 2024, CCA Dylunio Safle, Uwchgynllunio a Briff Datblygu a fabwysiadwyd ar 28 Chwefror 2023 a CCA Lleoliadau Cynaliadwy a fabwysiadwyd ar 13 Mehefin 2023.
Cliciwch ar y ddolen i weld map o Dorfaen sy’n dangos haenau o wybodaeth (Cyfyngiadau a chyfleoedd) i’ch helpu i ddadansoddi’ch a chynllunio’ch safle datblygu. Gellir dod o hyd i leoliad neu safle drwy chwyddo’r map i ddod o hyd i’r ardal gywir neu wrth bori’r i ddod o hyd i’r cyfeiriad. Gellir gweld y gwahanol haenau o wybodaeth yn unigol neu mewn cyfuniad, drwy glicio i’w troi ymlaen neu i ffwrdd. Mae’r symbol llygad yn dangos y rheini sy’n weladwy. Mae unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gael drwy'r ‘i’. Gellir defnyddio’r offeryn i fesur pellteroedd ac ardaloedd. Mae tiwtorial a chymorth yn rhan o’r feddalwedd, ar ochr chwith y sgrin ond os byddwch yn cael unrhyw broblem neu os oes gennych ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys y data diweddaraf sydd gennym, ond dylai unrhyw ddefnyddiwr ei wirio i sicrhau ei fod yn gywir ‘ar lawr gwlad’.
Mae fersiwn Gymraeg o’r map ar gael drwy glicio ar y botwm iaith tuag at waelod y sgrin ar yr ochr chwith.
Model Dichonoldeb Datblygu (MDD)
Mae’r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau eraill yn y rhanbarth, ochr yn ochr â’r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygiad Trefol, Burrows-Hutchinson Ltd, i sefydlu’r teclyn asesu. Mae’r MDD wedi cael ei greu fel model cynhwysfawr, hawdd ei ddefnyddio i hyrwyddwyr safleoedd a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau, at ddibenion asesu dichonoldeb ariannol cynnig o ddatblygiad. I gael copi o’r MDD sy’n benodol o ran safleoedd, ynghyd â’r canllaw i ddefnyddwyr a fideos, neu i drafod unrhyw faterion mewn perthynas â’r MDD, cysylltwch â ni.
Mae’r ffioedd ar gyfer copi o’r MDD fel a ganlyn:
Cynlluniau Preswyl
- 1-9 annedd - £195 +TAW (£234)
- 10-50 anheddau - £345 +TAW (£414)
- 51-100 anheddau - £495 +TAW (£594)
- 101-150 anheddau - £595 +TAW (£714)
- 151-250 anheddau - £650 +TAW (£780)
- 251-350 anheddau - £750 +TAW (£900)
- 351-450 anheddau - £850 +TAW (£1,020)
- 451-550 anheddau - £950 +TAW (£1,140)
- 551-650 anheddau - £1,050 +TAW (£1,260)
- 651-750 anheddau - £1,150 +TAW (£1,380)
- 751-850 anheddau - £1,250 +TAW (£1,500)
- 851-950 anheddau - £1,350 +TAW (£1,620)
- Dros 950 o anheddau - £ i'w gytuno gyda'r Cyngor yn dibynnu ar faint / cymhlethdod y cynnig
Cynlluniau Masnachol
- Llai na 0.4ha - £195 +TAW (£234)
- 0.4ha to <2.0ha - £345 +TAW (£414)
- 2.0ha to <4.0ha - £495 +TAW (£594)
- Dros 4ha - £ i'w gytuno gyda'r Cyngor yn dibynnu ar faint / cymhlethdod y cynnig
Tâl Gweinyddu a Monitro ar gyfer Cytundebau S106 / Safonau Lefel Gwasanaeth
Mae'r Cyngor ar 28 Mehefin 2011 wedi penderfynu cyflwyno system ffioedd ar wahân sy'n berthnasol i geisiadau cynllunio sy'n galw am brosesu a monitro cytundeb cyfreithiol Adran 106, a chyhoeddi ei Safonau Lefel Gwasanaeth cysylltiedig. Bydd y ffi a godir yn cyfrannu at yr adnoddau gweinyddol a phroffesiynol sy'n ofynnol yn yr Adran Gynllunio i ddarparu'r gwasanaeth cynllunio. Mae’r Tâl Gweinyddu a Monitro ar gyfer Cytundebau S106 (yn agor mewn tab newydd) a Safonau Lefel Gwasanaeth S106 (yn agor mewn tab newydd) ar gael i’w lawr lwytho.
Rhestr Atodiad 2 o Ganllawiau Cynllunio Atodol y Cynllun Datblygu Lleol a Fabwysiadwyd i Dorfaen, a Dynnwyd Yn Ôl gan y Cyngor ym mis Chwefror 2024:
- Strategaeth Ddylunio Ystâd Ddiwydiannol Avondale Road, Gorffennaf 2002
- Cynllun Cadwraeth Blaenafon 2003
- Brif Ddatblygu Clarence Corner 2003
- Strategaeth Tir a Mannau Agored y Cyngor
- Datblygiad a’i ymgorfforiad yn y Dirwedd, Chwefror 2000
- Canllawiau Dylunio Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas
- Datganiad Polisi Henllys, Mai 1993
- Cymeriadu’r Dirwedd Hanesyddol (Blaenafon) – Canllawiau Gwent
- Datganiad Polisi Drafft Pentwyn, Tachwedd 1992
- Strategaeth Ddylunio Ystadau Diwydiannol Tir Polo a De Pont-y-pŵl, Gorffennaf 2002
- Aneddiadau Newydd yng Nghefn Gwlad, Rhagfyr 2004
- Adeiladau Dros Dro
- Brif Datblygu Safle’r Popty, Rhagfyr 2004
- Brif Datblygu Ysgol Gymunedol Trefddyn, Tachwedd 2011
Rhagor o Wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch y CCAau trwy gysylltu â'r tîm Blaengynllunio neu'r tîm Rheoli Datblygu yn Nhorfaen.