Mae'n ofynnol i bob cyngor baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i lywio'r gwaith o ddatblygu a defnyddio tir dros gyfnod o 15 mlynedd.
Mabwysiadodd y cyngor ei Gynllun Datblygu Lleol cyfredol yn 2013. Cafodd ei adolygu yn 2017 a phenderfynwyd bod angen cynllun diwygiedig. Darllenwch Adroddiad Adolygu CDLl Torfaen (yn agor mewn tab newydd).
Mae Cydgynllun Datblygu Lleol yn cael ei ddatblygu gyda Chyngor Blaenau Gwent.
Am wybodaeth am y broses, safleoedd posibl a sut y gallwch chi gymryd rhan, ewch i wefan Cydgynllun Datblygu Lleol Blaenau Gwent a Thorfaen (yn agor mewn tab newydd).
Bydd y CDLl presennol yn parhau i ddarparu'r fframwaith polisi ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio, tan i’r cynllun newydd gymryd ei le.
Am ragor o wybodaeth, lawr lwythwch Datganiad Ysgrifenedig CDLl Torfaen (yn agor mewn tab newydd).
- Map o Gynigion y CDLl a Fabwysiadwyd ar gyfer Gogledd Torfaen (yn agor mewn tab newydd)
- Map o Gynigion y CDLl a Fabwysiadwyd ar gyfer De Torfaen (yn agor mewn tab newydd)
- Map Cyfyngiadau’r CDLl a Fabwysiadwyd ar gyfer Torfaen (yn agor mewn tab newydd)
- Crynodeb o’r CDLl a Fabwysiadwyd ar gyfer Torfaen (yn agor mewn tab newydd)
- Adroddiad yr Arolygydd (yn agor mewn tab newydd)
Darganfyddwch effaith y cynllun:
Adroddiad Monitro Blynyddol
Mae'r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) yn cael ei ddefnyddio i asesu i ba raddau y mae'r CDLl yn cyflawni ei amcanion. Mae ganddo ddwy swyddogaeth sylfaenol; yn gyntaf i ystyried a yw'r polisïau a nodwyd yn y broses fonitro yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus; ac yn ail i ystyried y cynllun yn ei gyfanrwydd yn erbyn yr holl wybodaeth a gasglwyd i bennu a yw adolygiad llawn neu rannol o'r cynllun sydd ei angen. Mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol y CDLl sy'n cynnwys y flwyddyn ariannol flaenorol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn.
Adroddiad Monitro Blynyddol 2025
Cyflwynwyd y degfed Adroddiad Monitro Blynyddol y CDLl (yn seiliedig ar y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025) i Lywodraeth Cymru ar 28 Hydref 2025. Lawrlwythwch gopi o Adroddiad Monitro Blynyddol CDLl 2025 (yn agor mewn tab newydd) yma.