Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)

Mae’r Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) yn ardoll newydd y gall awdurdodau lleol ddewis ei chodi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at y seilwaith sydd ei angen i gefnogi twf yn y Cynllun Datblygu Lleol, megis ysgolion a gwelliannau i gludiant. Mae Rhestr Codi Tâl ASC ddrafft yn nodi’r cyfraddau y mae’r cyngor yn bwriadu eu codi mewn ardaloedd penodol yn y fwrdeistref a pha fathau o ddatblygiad newydd y bydd disgwyl arnynt i dalu. Defnyddir yr arian a godir trwy ASC i ariannu seilwaith angenrheidiol. Mae’n ofyniad ein bod yn paratoi a chyhoeddi rhestr o’r holl seilwaith sy’n gymwys i dderbyn arian ASC. Nodir hyn yn Rhestr Ddrafft Seilwaith 123 sydd wedi ei chynnwys yn y ddogfen Rhestr Codi Tâl ddrafft.

Diweddariad Mai 2026 - Roedd Atodlen Codi Tâl Ddrafft ASC Torfaen yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 11 Rhagfyr 2017 a 29 Ionawr 2018; ac oedwyd hyn tra bod y Cyngor yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd i Dorfaen (2022-2037), gan gynnwys ailystyried ei dystiolaeth o ddichonoldeb datblygiad. Serch hynny, mae’r Cyngor wedi penderfynu tynnu’n ôl CDLl Newydd Torfaen (2022-2037) a dechrau paratoi Cydgynllun Datblygu Lleol ar gyfer Blaenau Gwent a Thorfaen (2026-2041). Felly, bydd y Cyngor yn ailasesu dichonoldeb datblygiad yn rhan o’r gwaith ar y Cynllun newydd ddiwedd 2027. Ar sail casgliadau’r gwaith yma, bydd y Cyngor yn penderfynu a fydd yn parhau i fynd ar ôl cyflwyno ASC yn y man.

Beth yw ASC?

Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (neu'r "ardoll' neu 'ASC') yn caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol godi arian gan ddatblygwyr sy'n ymgymryd â phrosiectau adeiladu newydd yn eu hardal. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at y seilwaith sydd ei angen i gynorthwyo twf, fel ysgolion a gwelliannau i gludiant. Mae ASC yn cael ei chymhwyso fel tâl ar bob metr sgwâr o arwynebedd llawr newydd sy'n cael ei greu gan y datblygiad, a nodir cyfraddau gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o ddatblygu, yn ôl pa mor ymarferol yw pob math o ddatblygiad. Gellir defnyddio'r arian sy'n deillio o'r ASC i ariannu ystod eang o seilwaith sydd ei angen i gynorthwyo twf yn yr ardal.

Mae pob awdurdod lleol yn paratoi Rhestr Codi Tâl sy'n nodi lefel yr ASC a fydd yn cael ei chymhwyso i bob math o ddatblygiad trethadwy. Ar ôl ei chyflwyno, mae'r ASC yn orfodol ac fe'i codir yn erbyn pob datblygiad newydd sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso. Mae'n rhaid i'r ASC fod yn 'fforddiadwy' yn gyffredinol ar gyfer datblygwyr ac ni ddylid ei gweld yn bygwth hyfywedd datblygiad cyffredinol mewn ardal benodol. Rhaid i Restr Codi Tâl yr ASC fod ar sail dystiolaeth briodol. Cynhaliwyd astudiaethau hyfywedd cynhwysfawr sy'n nodi tystiolaeth fanwl ar hyfywedd datblygiad ar draws ystod o safleoedd a defnyddiau yn Nhorfaen.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi Canllawiau i greu Ardoll Seilwaith Cymunedol (yn agor mewn tab newydd). Cyhoeddir y ddogfen hon ar ffurf cwestiwn ac ateb a bydd yn cynnwys mwyafrif yr ymholiadau sydd genych ynglŷn ag ASC.

Cyfnodau Allweddol ar gyfer Mabwysiadu Rhestr Codi Tâl ASC:

Tabl gwybodaeth yn dangos camau’r Paratoadau ar gyfer yr ASC
Cam ym Mharatoadau’r ASCAmserlen Fras
Ymgynghoriad ar Ddrafft o’r Rhestr Codi Tâl a Drafft o Rhestr Seilwaith Rheoliad 123Cwblhawyd
Drafft o’r Rhestr Codi Tâl a Drafft o Rhestr Seilwaith Rheoliad 123Rhag 2017 - Ion 2018
Cyflwyno ar gyfer Archwiliadic
Archwilioic
Adroddiad ASC yr Archwiliwric
Cymeradwyo a Chyhoeddi’r Rhestr Codi Tâlic
Gweithredu’r Tâl ASCic
Adroddiad Monitro Blynyddolic

Tîm Cynllunio a Gweithredu Polisïau