Mae adeiladau hanesyddol yn rhan werthfawr o'n treftadaeth ac yn cyfrannu at gymeriad ein tirweddau a'n trefluniau, hyd yn oed os nad ydynt wedi'u rhestru neu mewn ardal gadwraeth. Maent yn gyswllt pwysig â'n gorffennol, ac yn cynnig amgylchedd unigryw i bobl fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Mae gofal a chynnal a chadw priodol yn bwysig i sicrhau bod adeiladau hanesyddol yn parhau i gyfrannu at ein diwylliant lleol.

Os ydych chi'n berchen ar adeilad hanesyddol (yn enwedig y rhai a adeiladwyd cyn 1919), gwnewch yn siŵr eich bod chi'n deall sut y cafodd ei adeiladu yn ogystal â'r deunyddiau a'r technegau a ddefnyddiwyd. Bydd hyn yn helpu i lywio eich cynlluniau cynnal a chadw a'r dull gorau o atgyweirio.

Yn gyffredinol, dylid gwneud atgyweiriadau i'ch adeilad hanesyddol ar sail tebyg at ei debyg. Mae hyn yn golygu defnyddio deunyddiau a thechnegau sy’n cyfateb i'r rhai a ddefnyddiwyd yn wreiddiol. Trwy wneud hyn rydych chi'n gwneud yn siŵr bod y gwaith yn gydnaws o ran perfformiad, cymeriad ac edrychiad yr adeilad. Yn aml, wrth fynd ati i ddefnyddio deunyddiau a thechnegau modern ar adeiladau hanesyddol, gall achosi problemau mwy difrifol i adeiladwaith yr adeilad yn y tymor hir.

Gellir dilyn y dolenni canlynol i gael arweiniad a chyngor:

Gellir cael cyngor proffesiynol trwy gofrestrau treftadaeth arbenigol, achrediadau a chyfeirlyfrau:

Yr Economi a'r Amgylchedd: Treftadaeth Adeiledig