Beth yw Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl)?

Roedd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CROW) 2000 yn mynnu y byddai Fforymau Mynediad Lleol yn cael eu sefydlu ym mhob Awdurdod Lleol a Pharc Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Cyrff yw'r rhain a sefydlir i gynghori ar wella mynediad y cyhoedd at y tir yn yr ardal honno at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhau'r ardal, ac i gynghori ar faterion eraill a ragnodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Sut cawsant eu sefydlu?

Roedd y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy'n gosod dyletswydd statudol ar "awdurdodau penodi" i sefydlu FfMLl yn eu hardal. Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen y Fforwm cyntaf ym mis Tachwedd 2002, gan benodi aelodau ag amryw ddiddordebau a phrofiadau o gerddwyr lleol i reolwyr ystâd, marchogion i ffermwyr, beicwyr gwlad i gominwyr. Bob tair blynedd, rhaid i'r Awdurdod ailhysbysebu am Fforwm Mynediad Lleol newydd, gan alluogi pobl newydd â diddordeb i ymgeisio felly a chynyddu nifer yr aelodau hynny sydd wedi gofyn am aros ar y fforwm.

Pwy mae'r Fforwm Mynediad Lleol yn ei "gynghori"?

Ymgynghorir â'r fforymau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Adran Cefn Gwlad Torfaen a chyrff eraill fel y gellir eu rhagnodi mewn rheoliadau yn y dyfodol. Mae gan y cyrff hyn ddyletswydd i ystyried cyngor perthnasol a roir gan y Fforwm Mynediad Lleol ac yn Nhorfaen bu'r cyngor yn werthfawr ac yn ddefnyddiol iawn mewn llawer o achosion. (Trowch at yr Adroddiadau Blynyddol am restr o faterion a drosglwyddwyd i'r Fforwm Mynediad Lleol am sylwadau/cyngor).

Pwy sy'n rhan o'r Fforwm Mynediad Lleol?

Mae'r Fforwm Mynediad Lleol yn cynnwys gwirfoddolwyr sydd â phrofiad neu ddiddordeb mewn materion cefn gwlad a mynediad. Mae cymysgedd gytbwys rhwng defnyddwyr a thirfeddianwyr/rheolwyr tir, gydag ystod eang o brofiad a diddordebau. (Eto, gweler y dadansoddiad o aelodau a restrir yn yr Adroddiadau Blynyddol). Penodir pob aelod yn ei rinwedd ei hun, nid i gynrychioli unrhyw grŵp neu gorff penodol, felly ni all benodi dirprwy i ddod yn ei le os na fydd yn gallu dod i gyfarfod.

Pa mor aml maen nhw'n cyfarfod?

Ar hyn o bryd, mae Fforwm Mynediad Lleol Torfaen yn cwrdd bob tri mis yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl. Cyfarfodydd cyhoeddus yw'r rhain a chaiff unrhyw un fynd iddynt, ond dim ond aelodau'r Fforwm sy'n gallu cyfranogi. Os bydd aelod o'r cyhoedd yn dymuno codi pwynt yng nghyfarfod y Fforwm, gall gysylltu â'r ysgrifennydd neu'r cadeirydd a gofyn am gynnwys ei fater mynediad ar yr agenda.

Sut mae ymaelodi â'r Fforwm Mynediad Lleol?

Bob tair blynedd, gwahoddir aelodau o'r cyhoedd â diddordeb i ymgeisio i fod yn aelod o'r Fforwm Mynediad Lleol. Asesir y ceisiadau gan yr awdurdod lleol a phenodir yr aelodau llwyddiannus am gyfnod o dair blynedd. Mae'r awdurdod hefyd yn rhoi cymorth ysgrifenyddol i'r Fforwm Mynediad Lleol ond rhaid i'r fforwm osod ei agendâu ei hun, ac anogir aelodau unigol i awgrymu eitemau agenda a darparu papurau ategol lle bydd eu hangen.

Mae'r aelodau presennol fel a ganlyn:

  • Mr Edwin Gulliford, Blaenavon, Gadeirydd
  • Ms. Veronica Brannovic Pontypŵl Dirprwy Gaderiydd
  • Mrs Gill Calder-Matthews, Pontypŵl
  • Mrs Charlotte Barter, Blaenavon
  • Mr J Hanbury, Pontypŵl
  • Mr Jeff Williams, Cwmbrân
  • Mr Jason Rees, Cwmbrân
  • Mr Harry McKenzie, Pontypŵl
  • Mr Rob Holcombe, Ponthir
  • Mr Jon Horler, Pontypŵl
  • Mr Christopher Hatch, Pontypŵl
  • Mrs Linda Stinchcombe, Cwmbran
  • Miss Aileen Vaughan, Ebbw Vale
  • Miss Nadine Morgan, Abertillery
  • Mr Mark Lewis, Cwmtillery
  • Mrs Liz Van, Cwmbrân

Tîm Mynediad