HDRC Torfaen Logo

Rydym yn un o 30 Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd ar draws y DU a'r ail un yng Nghymru.

Mae CYBI Torfaen yn rhan o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, sy’n cael ei letya gan Gyngor Torfaen.

Bydd y tîm yn cynnal ymchwil a gwaith dadansoddi data helaeth, er mwyn deall pam fod gan rai pobl a chymunedau yn Nhorfaen iechyd meddwl a chorfforol gwael, a beth y gellir ei wneud i wella hynny.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y tîm yn:

  • Defnyddio ymchwil a thystiolaeth i wneud penderfyniadau
  • Cynnwys pobl leol mewn blaenoriaethau ar gyfer ymchwil i iechyd
  • Cysylltu data â phenderfyniadau strategol
  • Rhannu’r dysgu
  • Gwerthuso effaith ac ymyriadau

Mae CYBI Torfaen yn bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen, Prifysgol De Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Beth yw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal?

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (yn agor mewn tab newydd) yn ariannu ymchwil i iechyd a gofal cymdeithasol sy'n arwain y byd ac sy'n gwella iechyd a lles pobl ac yn hyrwyddo twf economaidd, ac mae’n galluogi ymchwil o’r fath ac yn ei ddarparu.

Mae NIHR wedi dyfarnu £150m i 30 CYBI ar draws y DU. Nod y cyllid hwn yw rhoi’r capasiti a’r gallu i awdurdodau lleol i ymgymryd ag ymchwil i iechyd y cyhoedd, er mwyn mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.

Tîm Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI) Torfaen

HDRC Team

Rhes gefn, o'r chwith i'r dde: Jordan Everitt (Cymrawd Ymchwil), Gareth Cooke (Pennaeth CYBI Torfaen), Rhiannon Bennett (Dylunydd Ymyrraeth).

Rhes ganol, o'r chwith i'r dde: Simon Read (Uwch Gymrawd Ymchwil), Hannah Wixcey (Cymrawd Ymchwil), Louise Davies (Gweinyddwr y Rhaglen)

Rhes waelod, o'r chwith i'r dde: Matthew Davies (Rheolwr Y Rhaglen), Sophie Griffiths (Swyddog Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Gymuned), Amy Murray (Uwch Gymrawd Ymchwil)

University of South Wales and Aneurin Bevan University Health Board Logos