Mae garddio rhandiroedd yn darparu ffynhonnell fforddiadwy o ffrwythau a llysiau sy'n rhan hanfodol o ddiet iach, ac mae'n weithgaredd werth chweil sy'n gwella ansawdd bywydau pobl.

Ni ellir gwadu y gall yr ymdrech gychwynnol a allai fod ei angen i gyrraedd y safon angenrheidiol i drin y tir ar lain rhandir fod yn eithaf anodd, fodd bynnag, unwaith y gwneir hynny, mae manteision tyfu eich cynnyrch eich hun a'r manteision i'r iechyd yn llawer mwy na'r holl ymdrechion angenrheidiol.

Dyma rhai o'r buddion sy'n gysylltiedig â garddio rhandir:

  • Ffynhonnell fforddiadwy o fwyd o ansawdd da
  • Gweithgaredd hamdden corfforol sy’n cynnig manteision i’r iechyd
  • Bod yn rhan o gymuned y rhandir a rhannu’r cyfoeth o wybodaeth gyda gwahanol grwpiau oedran

Nid yw pawb sy'n byw yn Nhorfaen yn ddigon ffodus i gael gardd digon mawr i dyfu ffrwythau a llysiau. Gall unrhyw un sy'n byw yn Nhorfaen ystyried gwneud cais am randir, fodd bynnag, mae yna alw uchel am randiroedd ac mae'n siŵr y bydd rhestr aros.

Os bydd safle neu ardal o fewn safle yn cael ei ystyried fel un addas, dyrennir y ddarpariaeth i'r rheini sydd ag anableddau. Bydd ysgrifennydd y safle yn ystyried anghenion unigol y person.

Mae 41 o safleoedd rhandiroedd yn Nhorfaen sydd yn cael eu hunan-rheoli dan Gytundeb Rheoli Datganoledig. Maent yn cael eu rheoli o dan un o'r ddwy Gymdeithas Rhandiroedd a ganlyn:

  • Cymdeithas Rhandiroedd De Cwmbrân sy’n rheoli 21 o safleoedd rhandiroedd yn Ne’r Fwrdeistref
  • Cymdeithas Rhandiroedd y Cwm Dwyreiniol sy’n rheoli 20 o safleoedd rhandiroedd yng Ngogledd y Fwrdeistref

Mae’r safleoedd a’r ardaloedd y maen nhw wedi eu lleoli ynddynt fel a ganlyn:

Am beth mae’r Cymdeithasau Rhandiroedd yn gyfrifol?

Mae pob Cymdeithas yn gyfrifol am reoli’u safleoedd priodol o ddydd i ddydd. Dyma rhai o’u cyfrifoldebau:

  • Rheoli’r gyllideb
  • Cynnal rhestri aros
  • Gosod lleiniau
  • Cyhoeddi Cytundebau Tenantiaeth Blynyddol
  • Casglu rhent
  • Cynnal/creu gwelliannau ar eu safleoedd
  • Monitro a rheoli’r defnydd o ddŵr
  • Delio ag anghydfodau’n ymwneud â rhandiroedd
  • Terfynu tenantiaethau

Faint yw’r rhent am lain ar randir?

Mae ffioedd safle rhandiroedd Torfaen yn cynnwys ffi aelodaeth, cost fesul perc / metr sgwâr ac yswiriant.

Cytundeb Tenantiaeth

Mae'n ofynnol i bob Tenant ar randir i dalu'r rhent ac arwyddo Cytundeb Tenantiaeth bob blwyddyn. Mae'r Cytundeb Tenantiaeth yn cynnwys y prif reolau y mae angen i Denant rhandir lynu atynt, fodd bynnag, dylid bob amser darllen Cytundeb Tenantiaeth ar y cyd â Llawlyfr Ysgrifenyddion y Safle

Llawlyfr Rhandiroedd

Mae'r Llawlyfr Rhandiroedd yn cynnwys y rheolau a safonau y mae'n ofynnol i bob safle rhandiroedd a thenantiaid lynu atynt, mae'n cynnwys y weithdrefn anghydfod. A fyddech cystal â gweld Llawlyfr Rhandiroedd a all fod yn destun adolygiad.

Noder: Cyfrifoldeb y Tenant yw ymgyfarwyddo â thermau ac amodau eu Cytundeb Tenantiaeth a Llawlyfr Rhandiroedd .

Sut mae'r holl Safleoedd Rhandiroedd yn cael eu rheoli?

Mae'r holl safleoedd rhandiroedd yn cael eu rheoli dan Gytundeb Rheoli Datganoledig dan un o ddau o'r cymdeithasau a grybwyllwyd uchod y cyfeirir atynt fel arall fel y Grŵp Cymdeithas Rhandiroedd sy'n cynnwys y canlynol:

  • Ysgrifennydd y Gymdeithas
  • Cadeirydd y Gymdeithas
  • Trysorydd y Gymdeithas
  • Aelodau Cyfetholedig

Mae Grŵp y Gymdeithas yn gyfrifol am reoli'r holl safleoedd rhandiroedd y maen nhw'n gyfrifol amdanynt o ddydd i ddydd. Mae cyfarfodydd yn cynnal eu cynnal bob chwe mis rhwng grwpiau'r cymdeithasau, y mae iddynt Gadeirydd a Chynghorydd, a Swyddog Rhandiroedd y Cyngor.

Noder: Oherwydd bod y Cymdeithasau yn Rheoli eu Hunain, nid fydd Swyddog Rhandiroedd y Cyngor yn cymryd rhan mewn unrhyw anghydfod. Gweler Llawlyfr Rhandiroedd - "Trefn Anghydfodau".

Sut mae safle rhandiroedd unigol yn cael ei rheoli?

Mae gan bob safle Ysgrifennydd Safle, Trysorydd ac Aelodau Pwyllgor a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae pob Tenant yn atebol i'r bobl hyn.

Ceir safonau ac ymddygiad penodol y mae'n rhaid eu bodloni. Bydd ysgrifennydd y safle neu bwyllgor o aelodau yn gallu rhoi arweiniad ar bob agwedd ar reolau'r safle ac ati. Unwaith eto, mae'n gyfrifoldeb ar y Tenant i sicrhau ei fod ef neu hi yn gwbl ymwybodol o'r rheolau yn y Cytundeb Tenantiaeth, Llawlyfr Rhandiroedd neu unrhyw reolau unigol ychwanegol sydd gan y safle.

Mae'n bwysig nodi y gallai torri unrhyw rhai o'r uchod arwain at derfynu'r Denantiaeth ar unwaith a gellir gofyn i'r Tenant adael y safle ar unwaith.

Sut ydw i’n gwneud cais am randir?

Gallwch wneud cais drwy ddilyn unrhyw rhai o’r opsiynau a ganlyn:

  1. Ymweld â’r safle neu’r safleoedd o’ch dewis a gofyn i siarad ag Ysgrifennydd y Safle fydd yn cymryd eich manylion a chysylltu â chi pan fydd rhandir ar gael
  2. Am ymholiadau am leiniau ar safleoedd a reolir gan Gymdeithas y Cwm Dwyreiniol, anfonwch e-bost at daniel.hodson@torfaen.gov.uk
  3. Am ymholiadau am leiniau ar safleoedd a reolir gan Gymdeithas De Cwmbrân anfonwch e-bost i cwmbranallotmentsmembership@gmail.com

Bydd angen i chi rhoi’r wybodaeth a ganlyn:

  • Enw llawn
  • Yr ardal o’ch dewis neu
  • Enw’r safle neu safleoedd o’ch dewis
  • Rhif ffôn

Bydd y manylion uchod yn cael eu rhoi i’r gymdeithas rhandiroedd berthnasol sy’n rheoli’r rhestr aros a byddant yn cysylltu â chi pan fydd llain ar gael.

Faint o amser fydd angen i mi aros am randir?

Nid yw'n bosibl darparu amser o ran pryd y bydd rhandir ar gael. Bydd hyn yn dibynnu ar ba bryd bynnag y bydd tenant yn rhoi'r gorau i'w lain.

Yn ogystal â'r uchod, os byddwch yn dewis mwy nag un safle, byddwch yn fwy tebygol o gael llain.

Sut allaf ddod yn aelod o Bwyllgor y Safle neu Grŵp y Gymdeithas?

Dros amser, mae rhai tenantiaid yn dod yn angerddol dros y safle a sut y mae'n cael ei redeg ac felly fe fyddant yn teimlo yr hoffent gyfrannu at ddatblygu a rhedeg y safle. Dylid mynegi'r fath diddordeb i Ysgrifennydd y Safle neu'r Pwyllgor a fydd yn croesawu'r diddordeb. Bydd pob safle yn pleidleisio'n ddemocrataidd dros aelodau.

Yr un fydd y broses i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn aelod o Grŵp y Gymdeithas.