Mae Parc Pont-y-pŵl yn cael ei adnabod yn lleol fel Parc y Bobl. Mae'n cwmpasu rhyw 64 hectar gyda nifer o nodweddion hanesyddol - gan gynnwys Gerddi Eidalaidd, Tai Iâ a Groto Cregyn - sydd wedi cael eu hadfer gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae yna hefyd gyswllt o'r Parc, trwy dir fferm ger y Tŵr Ffoli, ar hyd llwybr cyhoeddus.
Mae'r cyfleusterau'n cynnwys ardal chwarae i blant, cae rygbi (cartref Clwb Rygbi Pont-y-pŵl) cyrtiau tennis, golff byr, bowlio a llethr sgïo sych.
Mae llwybrau'n cysylltu'r Parc gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y ffin fwyaf gogleddol.
Mae croeso i chi fwynhau picnic, chwarae gemau neu hyd yn oed gofleidio coeden!
Dylid cadw cŵn dan reolaeth ac mae croeso i berchnogion cyfrifol, ond cliriwch ar ôl eich ci a rhoi'r gwastraff yn y biniau a ddarparir.
Defnyddwyr y biniau sbwriel - mae'n helpu i gadw'r Parc yn edrych yn dda.
Sori, ni chaniateir beicio.
Sori, ni chaniateir ceffylau.
Sori, ni chaniateir cerbydau modur.
Sori, ni chaniateir pysgota heb y drwydded briodol.
Mae Parc Pont-y-pŵl yn cynnwys rhyw 64 hectar a chafodd ei osod yn wreiddiol tua 1703 fel ystâd breifat.
Mae hen 'fap' yn dangos rhodfeydd o gastanwydd melys a ffawydd yn dilyn amlinell y cymoedd i fyny tuag at y Tŵr Ffoli.
Mae llawer o'r hen gastanwydd melys yn dal i'w gweld, o amgylch Pyllau Nant-y-Gollen a ger Cylch Meini'r Orsedd ac yn ôl y sôn dyma'r rhai mwyaf mor bell i'r gogledd â hyn. Cawsant eu plannu'n wreiddiol i gynhyrchu golosg ar gyfer y gefeiliau haearn ar hyd yr Afon Lwyd.
Yn ystod y 100 mlynedd nesaf plannwyd castanwydd, derw, ffawydd ac yw gan guddio'r rhodfeydd ffurfiol a chreu'r ardaloedd coediog ar hyd yr afon a'r prif lwybr i Bontymoile. Cadwodd y Parc ei gymeriad agored a'r golygfeydd tuag ar y crib ffawydd. Roedd y Groto Cregyn a'r dref ei hun i'w gweld yn amlwg.
Ar ddechrau’r 20fed ganrif, daeth y Parc yn eiddo i'r cyhoedd er budd cymuned Pont-y-pŵl.
Cafodd planhigfeydd coniffer eu cyflwyno yn ystod y 1950-60au a chawsant eu gadael heb eu rheoli ac mae hyn, ynghyd â thyfiant nifer o'r coed a blannwyd yn wreiddiol, wedi newid y tirlun i fod yn barc coediog aeddfed yn bennaf gyda rhywfaint o ddolydd agored.
Mae'r Parc yn cynnwys nifer o ardaloedd hanesyddol yn cynnwys y Gerddi Eidalaidd, Twnnel y Dramffordd, Rhewdai a Groto Cregyn. Cafodd y Groto Cregyn ei adeiladu oddeutu 1829 gan Molly Mackworth fel tŷ haf, rhyw 220m uwchben yr ardal o amgylch ac mae golygfeydd ysblennydd ar draws y wlad agored ac Aber Hafren oddi yno.
| Date | Event |
|---|---|
| 1576 | Richard Hanbury'n dod i Bont-y-pŵl |
| 1655 | Capel Hanbury yn cymryd prydles am 'lain o dir o'r enw Pont-y-pŵl, ynghyd â'r efail ac adeiladwyd gyda hynny' |
| 1689 | Capel Hanbury yn prynu ardal sylweddol o'r hyn a ddaeth i'w adnabod yn ddiweddarach fel Parc Pont-y-pŵl |
| 1694 | Uwchgapten John Hanbury yn adeiladu'r tŷ cyntaf yn y Parc 1720 adeiladu giatiau Pontymoile |
| 1730 | Ralph Allen o Prior Park (Caerfaddon) yn ymweld |
| 1752 | Tŷ yn ehangu tua'r gorllewin |
| 1765 | Gwneud bwrdd Japan |
| 1808 | Adeiladu gwaith tun Pontymoile |
| 1800-10 | Ailwampio'r tŷ yn gyfan gwbl i wynebu'r de |
| 1830au | Adeiladu'r Groto Cregyn |
| 1831 | Datgymalu Gefail y Parc |
| 1834 | Tŵr Ffoli Castellog yn cael ei adeiladu ar safle bresennol y tŷ haf |
| 1835 | Ail fodelu Giatiau Pontymoile |
| 1835 | Cwblhau'r stablau, dymchwel y colomendy a'r capel |
| Wedi 1834 | Dymchwel Gefail y Dref |
| 1850au | Datblygu'r Gerddi Americanaidd |
| 1872 | John Hanbury Leigh yn dymchwel pen gorllewinol y tŷ ac adeiladu'r estyniad Fictorianaidd presennol |
| 1915 | Tŷ'n cael ei osod i Chwiorydd yr Ysbryd Glân |
| 1920 | Gwerthu'r Parc i'r awdurdodau cyhoeddus |
| 1920 | Cau rheilffordd y dramffordd |
| 1923 | Creu Cylch Meini'r Orsedd |
| 1924 | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| 1924 | Adeiladu cyrtiau tennis |
| 1924 | Gerddi Eidalaidd yn cael eu trosglwyddo i'r awdurdodau lleol |
| 1925 | Gosod y lawnt fowlio |
| 1925 | Gosod y cae rygbi (hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer criced) |
| 1931 | Codi'r Safle Seindorf |
| 1940 | Dymchwel y Tŵr Ffoli |
| 1945 | Adeiladu'r Eisteddle |
| 1952 | Codi'r Cloc Coffa |
| 1952 | Plannu'r Rhodfa Geirios |
| 1959 | Dymchwel Porthdy Pontymoile |
| 1974 | Adeiladu canolfan hamdden ac ardal chwarae |
| 1975 | Adeiladu llethr sgïo sych |
| 1994 | Agor y Tŵr Ffoli newydd yn swyddogol gan EUB y Tywysog Charles |
Mae'r Afon Lwyd yn mynd i mewn i'r parc ger y Gerddi Eidalaidd ac yn gadael ger Pontymoile. Dyweder mai'r Afon Lwyd yw'r afon ail uchaf yn Ewrop o ran codi a gostwng ac mewn cyfnodau o law trwm, mae'r afon yn cyrraedd ei huchafbwynt yn gyflym ac mae'n troi yn ffrwd wyllt mewn dim amser.
Cafodd y gored a pheirianwaith y llifddor eu gosod yn yr afon i sicrhau bod llif cryf o ddŵr ar gael trwy'r amser i droi'r olwynion dŵr oedd yn pweru'r gefeiliau cyfagos. Roedd gefeiliau haearn cynnar fel hyn, a sefydlwyd cyn dyfodiad stêm, bob amser yn agos at afonydd oedd yn llifo'n gyflym er mwyn manteisio ar y ffynhonnell pŵer naturiol hwn.
Gellir gweld i'r gored gael ei hadeiladu'n wreiddiol o goblau caled sydd wedi cael eu tanseilio dros amser ac wedi llithro bellach. Mae'r garreg fawr wreiddiol yn dal yn yr afon a rhagwelir efallai y bydd cyfle i adfer yr ardal hon yn y blynyddoedd i ddod.
Mae rheolwyr y parc yn parhau i weithio gyda Grŵp Cadwch Gymru'n Daclus a sefydliadau gwirfoddol eraill i ymgymryd â'r gwaith o lanhau nifer o afonydd trwy gydol y flwyddyn. Gobeithir y bydd gosod llamfa bysgod ar gored Pontymoile yn gwneud yr afon yn gynefin werthfawr unwaith eto i frithyll a physgod eraill.
Codwyd Cylch Meini'r Orsedd ym 1923 cyn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn y Parc ym 1924. Mae'r Eisteddfod yn ddathliad o lenyddiaeth, celfyddyd, diwylliant a cherddoriaeth Cymraeg ac mae'n tarddu o hen draddodiad barddol. Yn ystod y seremoni mae'r Bardd yn cael ei wobrwyo a rhoddir gwobrau am gyfraniadau pwysig i ddiwylliant Cymraeg.
Mae'r cylch meini'n cael ei adnabod fel cylch Gwyngil ac mae'r meini eu hunain yn cael eu galw'n meini gwynion a meini crair. Cyfeirir at y garreg yn y canol fel Maen Gorsedd. Mae gosodiad y cylch wedi ei nodi yn y rheolau sy'n llywodraethu'r seremoni.
Mae nifer o feirdd yn cael eu hurddo trwy gydol y dathliad ac mae gan bob un liw sy'n addas i'w urdd ei hun. Er enghraifft, bydd bardd yn gwisgo gwisg las, mae gwisg derwydd yn wen a gwisg ofydd yn werdd i ddangos y twf mewn dysg a gwyddoniaeth. Hefyd ceir regalia amrywiol yn cynnwys cleddyfau a baneri sy'n rhan o'r seremoni gyffredinol.
Bu Parc Pont-y-pŵl yn llwyddiannus yn cael cymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i adfer ardaloedd hanesyddol penodol a nodweddion y Parc.
Mae ardaloedd y prosiect yn cynnwys:
- Amnewid y goleuo ar hyd y prif lwybrau gyda golau mwy 'cadarn' ond o arddull sy'n gweddu
- Gwella ac uwchraddio llwybrau gyda gorffeniad graean er mwyn cael gwared ar y teimlad trefol sy'n cael ei gysylltu â tharmac du
- Arolwg llawn o'r hen goed a gwaith adferol cysylltiedig
- Ailwampio Giatiau Pontymoile a'r ardal allanol
- Adfer y rhewdai dwbl
- Adfer y Gerddi Eidalaidd
- Ail adeiladu'r waliau terfyn cerrig
- Gosod hysbysfyrddau ac arwyddion
- Ailwampio'r ffensio o amgylch y Groto Cregyn
- Rheoli glaswelltir ac ecoleg
- Ailwampio ac ail leoli Giatiau'r Ysgol
Mae'r rhewdai ym Mharc Pont-y-pŵl yn arwyddocaol iawn. Maen nhw'n unigryw o fewn Prydain gan nad oes unrhyw gofnod arall o rewdy siambr ddwbl. Mae'r ffaith bod ganddynt siambr ddwbl ond wedi eu hadeiladu fel un adeilad yn eu gwneud yn nodweddion arbennig o ddiddorol. Fel arfer un siambr yn unig oedd gan rewdy ac roedden nhw'n cael eu hadeiladu'n unigol yn hytrach na fel pâr. Mae eu lleoliad - mor agos at gartref y teulu Hanbury - hefyd yn anghyffredin (Mae Tŷ'r Parc / Park House bellach yn gartref i Ysgol St Albans).
Mae nifer o gofnodion bod y rhewdai wedi dioddef tirlithriad y tu ôl i'r adeilad sydd wedi gorchuddio'r drws mynediad. Mae ymchwil wedi dangos nad yw hyn yn wir ac mai'r agoriad ar ben yr adeilad yw'r fynedfa. Mae hefyd yn debygol bod gan yr adeilad do a allai fod yn do gwellt er mwyn sicrhau hynny o insiwleiddio â phosib.
Byddai'r rhew i lenwi'r tai wedi cael ei gymryd o Byllau Nant-y-Gollen a Chamlas Mynwy ac Aberhonddu gerllaw. Ym 1864 nododd y Free Press bod "digon o rew ar gael a bod llawer ohono wedi ei glustnodi ar gyfer rhewdai'r Parc”.
Yn ystod y cyfnod hwn roedd rhew wedi ei heintio ac nid oedd yn cael ei ddefnyddio i baratoi bwyd er, yn y blynyddoedd diweddarach gyda dyfodiad y rheilffordd, gellid prynu rhew glan a gellid ei ddefnyddio mewn bwyd.
Mae'r rhewdai wedi cael eu hadfer yn llawn bellach gydag arian gan Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Dyweder i'r Gerddi Eidalaidd gael eu hadeiladu tua 1849/50. Maent yn seiliedig ar erddi Isola Bella ar Lyn Maggiore ble'r aeth Capel Hanbury Leigh ar ei ail fis mêl. Daethpwyd a phlanhigion o'r ardal hon yn ôl i Bont-y-pŵl yn ôl yr arfer ar yr adeg honno. Mae'r gerddi'n cael eu nodi fel Gerddi Eidalaidd ar fap arolwg ordnans 1918 ond nid oes cyfeiriad o gwbl atynt ar fap 1881. Fodd bynnag, mae ardal debyg yn cael ei nodi, ond nid ei henwi, ar y map cynharach hwn.
Mae'n debyg i'r Gerddi Eidalaidd ddod yn fwy arwyddocaol pan gawsant eu rhoi i bobl Pont-y-pŵl gan Mrs Tenison, merch John Hanbury, i ddathlu ei dyfod i oed ym 1920. Cafodd y wal wen oedd yn rhedeg ar hyd Heol Hanbury ac a oedd yn cuddio'r gerddi rhag golwg y cyhoedd, ei thynnu ac adeiladwyd mynedfa newydd i'r Parc a ddaeth wedyn yn gofeb i'r rhai a gwympodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r planhigion yn yr ardal hon yn canolbwyntio ar samplau oedd yn ffasiynol o 1900 ymlaen. Nodweddion diddorol eraill yw twnnel y dramffordd a llwybr yr afon sy'n cynnwys y gored tuag at Pontymoile.
Un pwll melin oedd Pyllau Nant-y-Gollen yn wreiddiol oedd yn ffynhonnell pŵer i'r efail ymhellach i lawr yr afon. Roedd yr afon yn llifo i'r pwll ar y pen uchaf ac yn gadael ar y pen isaf, ond yn ddiweddarach cafodd nant ei chreu i redeg ochr yn ochr â'r pyllau.
Mae'r castanwydd melys o amgylch y pyllau oddeutu 400 mlwydd oed ac roeddent yn cael eu defnyddio fel ffynhonnell golosg i'r gefeiliau i lawr yr afon. Mae'r coed yn addasu'n hawdd iawn ac yn tyfu'n gyflym ar ôl cael eu torri'n ôl ac felly'n creu mwy o bren y gellid ei ddefnyddio ar gyfer golosg.
Yn ystod y 1920au defnyddiwyd y pyllau gan Johnny Weismuller, y Tarzan gwreiddiol, ar gyfer digwyddiad nofio ac yn ddiweddarach dywedir mai'r pyllau oedd cartref y tîm polo dŵr lleol.
Cafodd y pyllau eu hail gynllunio yn y 1990au cynnar a chrewyd dau bwll gyda'r bwriad o gael eu defnyddio fel llynnoedd ar gyfer cychod model. Yn anffodus mae'r pyllau'n gollwng bellach ac o ganlyniad ceir problemau sy'n gysylltiedig â diffyg dŵr a phroblemau gyda gwaddod yn y gwaelod.
Mynedfa Pontymoile oedd y fynedfa wreiddiol i Dŷ Parc Pont-y-pŵl oedd yn eiddo i'r teulu. Hanbury. Roedd porthdy bach yn ymyl yr afon a gafodd ei ddymchwel yn y 1950au hwyr.
Mae'r giatiau eu hunain yn rhestredig Gradd II* gan CADW ac maen nhw'n cael eu hadnabod yn annwyl fel giatiau Sally. Sally oedd Duges Marlborough ac yn ôl yr hanes roeddent yn anrheg i'r teulu Hanbury i ddiolch am eu help yn gweithredu ewyllys ei diweddar ŵr.
Mae ymchwil wedi dangos i'r colofnau a'r giatiau gael eu gwneud oddeutu 1850, ond cawsant eu newid yn hwyrach, fel y gwelir gan y bariau cŵn. Mae'n debyg i hyn gael ei wneud i alluogi wagenni mwy ac yn hwyrach cerbydau modur i fynd i mewn i'r Parc.
Mae adroddiad yn rhifyn Rhagfyr 1933 o'r Pontypool Free Press yn nodi mai Mr T E Deakin gynhyrchodd y fanyleb ar gyfer y giatiau ym mis Gorffennaf 1835 a daethpwyd o hyd i hyn ymysg papurau oedd yn eiddo i Mr Stanley Tudor Roderick, y cerddor ac arweinydd band enwog o Bont-y-pŵl. (Mae'r safle seindorf yn y Parc wedi ei godi er cof am Mr Roderick a'r cyfraniad cerddorol a wnaeth i'r dref.)
Mae'r giatiau wedi cael eu hadfer yn defnyddio technegau traddodiadol gydag arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Roedd y dramffordd yn rhan o system leol ehangach oedd yn cynnwys y gwaith tunplat a gefeiliau oedd yn cynhyrchu Gwaith Lacro Pont-y-pŵl. Daeth hwn yn enwog fel techneg newydd ar gyfer gosod paneli addurnol ar amryw o eitemau bob dydd yn cynnwys hambyrddau a thebotau.
Cafodd y twnnel ei adeiladu'n wreiddiol tua 1825 i gysylltu gwaith tun Pontymoile gyda gefail y Parc a gefail Osborne ac mae'n debyg iddo gyflenwi haearn iddynt.
Parhaodd y dramffordd i redeg ar hyd ochr yr afon. Mae bellach yn llwybr troed ac ymhellach i lawr yr afon ceir tystiolaeth o gored a llifddorau a fyddent wedi cael eu defnyddio i reoli llif y dŵr i'r gefeiliau.
Mae'r twnnel wedi ei gau erbyn hyn ond dyweder iddo ddod allan yn wreiddiol ger Pont y Dref.
Cafodd y twnnel ei ddefnyddio eto fel lloches cyrch awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mae rhai preswylwyr lleol yn cofio cysgodi yno yn ystod y cyrchoedd bomio.
Nid yw'r twnnel yn cael ei ddefnyddio heddiw ond saif i'n hatgoffa o orffennol diwydiannol Pont-y-pŵl a'i gysylltiad gyda Gwaith Lacro.