Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Gallwch ofyn am osod plac coffa ar unrhyw fainc mewn parc sy'n eiddo i'r cyngor.

Mae'r holl blaciau yn blaciau pres, sy’n mesur 6 modfedd x 3 modfedd. Maent yn cael eu gosod gydag ymyl befel a’r gost yw £245.

I ofyn am blac, llenwch y ffurflen gais. Rhaid i'ch neges fod hyd at uchafswm o 100 llythyren, gan gynnwys atalnodi.

Mae placiau'n cael eu gosod o fewn 28 diwrnod ar ôl talu amdanynt.

Nid yw'n bosibl ychwanegu eich placiau eich hun – bydd unrhyw blaciau heb awdurdod yn cael eu tynnu a'u storio am fis.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys lleoliadau meinciau mewn parciau sy'n eiddo i'r cyngor anfonwch e-bost at parksmemorial@torfaen.gov.uk