Rydym yn cynnal 47 o fannau chwarae i blant, mannau chwarae aml-ddefnydd a pharciau sglefrio ledled y fwrdeistref.
Mae cyfanswm o 69 o fannau chwarae yn Nhorfaen.
Cael hyd i'ch ardal chwarae agosaf (yn agor mewn tab newydd)Mae parciau sy’n cael eu cynnal gan y Cyngor yn ymddangos mewn lliw pinc ar y map. Mae parciau sy’n cael eu cynnal gan Fron Afon yn ymddangos mewn lliw porffor. Mae gwyrdd ac oren yn dangos parciau preifat neu rhai sy’n cael eu rheoli gan gyngor cymuned.
Mae'r holl barciau yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ac mae offer cynhwysol ar gael yn y mannau chwarae canlynol:
- Parc Pont-y-pŵl
- Llyn Cychod Cwmbrân
- Parc Cae Brooklands
- Parc Pontnewynydd
Mae’r parciau’n cael eu harchwilio’n rheolaidd, ac mae offer a ffensys yn cael eu cynnal i fodloni safonau diogelwch.
Sylwch na chaniateir cŵn, yn cynnwys cŵn ar dennyn, mewn unrhyw fannau chwarae.
Dweud am broblem gyda pharc neu faes chwarae (yn agor mewn tab newydd)