Rydym wrthi yn datgarboneiddio ein fflyd o fwy na 100 o gerbydau.

Mae'r term datgarboneiddio yn golygu atal allyriadau carbon deuocsid i'r atmosffer.

Er 2019/20, mae allyriadau carbon o gerbydau’r fflyd wedi gostwng 53 y cant.

Bar chart showing Council fleet and transport emissions

Beth ydyn ni'n ei wneud?

  • Rydym yn newid cerbydau fflyd i gerbydau carbon isel neu gerbydau di-garbon. Ar hyn o bryd, mae 15 y cant o fflyd y cyngor yn gerbydau trydan.
  • Rydyn ni wedi gosod is-orsaf grid newydd ar ein safle yn Nhŷ Blaen yn Y Dafarn Newydd, a fydd yn galluogi'r cyngor i gynyddu ei fflyd cerbydau trydan a'i seilwaith gwefru.
  • Yn 2023, fe wnaethom fuddsoddi mewn dwy lori gwastraff trydan.
  • Rydym wedi gosod peiriannau gwefru EV ar lawer o'n safleoedd a'n safleoedd ysgol, sy'n galluogi y gael ein fflyd, cymudwyr a'r cyhoedd ehangach wefru eu cerbydau.