Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd ac mae’n arwain at heriau byd-eang difrifol fel cynnydd mewn tymereddau byd-eang, patrymau tywydd sy'n newid, lefelau'r môr yn codi a mwy o dywydd eithafol.

Mae rhagolygon yn rhagweld hafau poethach, sychach a gaeafau mwynach, gwlypach, wrth i’r tywydd droi’n fwy eithafol.

Allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n dal gwres yn atmosffer y ddaear sy’n gyfrifol am newid yn yr hinsawdd. Un o'r nwyon tŷ gwydr yw carbon deuocsid, sy'n cael ei gynhyrchu pan fydd tanwydd ffosil fel olew a nwy yn cael eu llosgi. Mae yna nwyon eraill sydd hefyd yn nwyon tŷ gwydr, fel methan.

Y Darlun Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw y bydd pob corff sector cyhoeddus yn dod yn gorff carbon sero net erbyn 2030. Mae hyn yn golygu bod y nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu tynnu o'r atmosffer yn cydbwyso'r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hallyrru.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru gyfan fod yn garbon sero net erbyn 2050.

Y Darlun Lleol

Ym mis Mehefin 2019 fe wnaeth y Cyngor ddatgan argyfwng hinsawdd, ac ym mis Medi 2021,fe wnaeth ddatgan argyfwng natur.

Yn sail i’n gwaith mae ein Cynllun Gweithredu Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-27 a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2022. Mae’n fframwaith i’n rhaglen waith sy’n cynnwys y ffordd y bydd yr awdurdod yn mynd ati i ddod yn garbon sero net erbyn 2030, a sut y byddwn ni yn cefnogi cymunedau i ddod yn gymunedau carbon sero net.

Mae'n canolbwyntio ar wyth maes allweddol:

  • Effeithlonrwydd ynni a dŵr
  • Ynni adnewyddadwy
  • Symudedd a thrafnidiaeth
  • Caffael
  • Gwastraff, yn cynnwys lleihau ac ailgylchu
  • Bioamrywiaeth
  • Gwytnwch yn erbyn effaith newid yn yr hinsawdd
  • Materion trawsbynciol yn cynnwys hyfforddiant staff

Mae'r cynnydd yn cael ei fonitro gan gynghorwyr ar Is-grŵp y Cabinet Argyfwng Hinsawdd a Natur.

Nod rhaglen Prosiect Apollo y Cyngor yw lleihau allyriadau a chostau ynni'r Cyngor, a hynny’n sylweddol. Nod ein hymgyrch Codi'r Gyfradd yw cynyddu ailgylchu yn unol â tharged Llywodraeth Cymru, sef 70% erbyn 2025.

Mae ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur hefyd yn un o'r Amcanion Llesiant a nodir yn Torfaen y Dyfodol: Cynllun Sirol.