Mae’r cyngor yn berchen ar dros 100 o adeiladau ac yn eu rhedeg.

Mae'r term datgarboneiddio yn golygu atal allyriadau carbon deuocsid i'r atmosffer.

Mae ein rhaglen datgarboneiddio yn canolbwyntio ar bedwar "Gweithred":

  • Datgarboneiddio
  • Trydaneiddio
  • Effeithlonrwydd a
  • Digideiddio

Mae'r pedair "Gweithred" dda yn gweithio ar y cyd i leihau allyriadau carbon a chostau gweithrediadau adeiladu yn gyffredinol.

Ers 2019/2020, mae allyriadau carbon o’n hadeiladau wedi gostwng 40 y cant.

Bar chart showing Council building carbon emissions

Beth ydyn ni yn ei wneud?

  • Rydym yn buddsoddi i wella’n hadeiladau yn cynnwys ein hysgolion er mwyn eu gwneud yn fwy effeithiol.
  • Wrth osod mesurau effeithlonrwydd ynni yn 23/24 rydym wedi lleihau’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio ac arbed £374,000 ar ein biliau ynni.
  • Yn 2024 fe wnaethom osod paneli solar ffotofoltaig ar 15 o adeiladau’r cyngor.
  • Rydym wedi cefnogi Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i leihau eu biliau ynni drwy fuddsoddi mewn gwerth £700,000 o fesurau effeithlonrwydd ynni.
  • Ym mis Rhagfyr 2024, cymeradwyodd y Cabinet rhaglen waith newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni a fydd yn golygu y bydd allyriadau carbon ein hadeiladau yn gostwng 10 y cant yn rhagor.