Crynodeb o'r Drwydded

I rentu stondin yn y farchnad, a fyddech cystal â chysylltu â'r Rheolwr Marchnad Dan Do Pontypŵl

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, fe gewch gytundeb trwydded. I fusnesau newydd mae’n drwydded masnach brawf o 6 mis gyda hyd at 30% o ostyngiad ar renti.

Meini Prawf Cymhwysedd

Wrth ystyried cymhwysedd i gael Stondin Marchnad Dan Do, rhoddir sylw i gynrychiolaeth a'r galw am gynnyrch penodol, ynghyd ag ansawdd y nwyddau a'r gallu i gadw at y Drwydded a roddir gan yr Awdurdod.

Proses Gwerthuso Cais

Caiff ceisiadau eu hystyried yn ôl addasrwydd a pha un a oes stondinau ar gael.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.

Gwneud cais ar-lein

Am gyngor a ffurflen gais cysylltwch â'r Rheolwr Marchnad Dan Do Pontypŵl

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) yn rhoi cyngor i chi.

Camau Unioni Eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.