Crynodeb o'r Drwydded

Er mwyn cynnal arwerthiant cist car, mae'n bosibl y bydd angen i chi gael caniatâd masnachu ar y stryd gan yr awdurdod lleol lle y cynhelir yr arwerthiant.

Meini Prawf Cymhwysedd

Nid oes darpariaeth mewn rheoliadau

Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon (yn agor mewn tab newydd)

Proses Gwerthuso Cais

Rhaid i ymgeiswyr roi o leiaf un mis o rybudd i'r cyngor bwrdeistref o'u bwriad i gynnal arwerthiant cist car (neu ganiatáu i'w tir gael ei ddefnyddio ar gyfer arwerthiant cist car).

Rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig (gan gynnwys yn electronig) a chynnwys enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, ble a phryd y mae'n dymuno masnachu ac enw a chyfeiriad meddiannwr y safle hwnnw, os yw'n wahanol i'r ymgeisydd.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'r tîm trwyddedu

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'r tîm trwyddedu

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Byddem yn cynghori bob amser bod mewn achos o gwyn y cyswllt cyntaf yn cael ei wneud â'r masnachwr - a hynny'n ddelfrydol ar ffurf llythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny wedi gweithio, os ydych yn byw yn y DU, bydd y Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) yn rhoi cyngor i chi. Safonau Masnach Torfaen hefyd yn cael cyngor Sêl Cist Car.

Camau Unioni Eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall. Cysylltwch â'r tîm trwyddedu.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.