Mae tyrau oeri yn darparu dŵr wedi'i oeri at ddibenion aerdymheru, gweithgynhyrchu a chynhyrchu pŵer trydan. Mae'r rhain i'w cael mewn llawer o safleoedd mawr, fel gwestai, canolfannau hamdden, ffatrïoedd a chanolfannau siopa.
Prif ddiben y rheoliadau hyn yw atal Legionellosis (clefyd y llengfilwyr) a helpu i ymchwilio i achosion ohono.
Mae diffyg cynnal a chadw systemau oeri dŵr yn gallu arwain at amodau lle y gall achosion o glefyd y llengfilwyr ddigwydd – mae hyn yn aml yn gallu achosi salwch difrifol a hyd yn oed marwolaeth. I gael mwy o wybodaeth am glefyd y llengfilwyr a sut y caiff ei reoli, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (yn agor mewn tab newydd) (HSE).
O dan Reoliadau Hysbysu Tyrau Oeri a Chyddwysyddion Anweddol 1992, mae'n ddyletswydd ar unrhyw un sy'n gyfrifol am safle sydd â thŵr oeri'n rhan ohono i hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am fanylion unrhyw 'ddyfeisiadau hysbysadwy', a diweddaru'r manylion hynny fel bo'r angen.
Hyd yn oed os yw'r safle dan orfodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), rhaid i chi hysbysu'r awdurdod lleol o hyd.
Mae 'dyfeisiadau hysbysadwy' yn cynnwys tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol, heblaw pan fyddant yn cynnwys dŵr nad yw'n dod i gysylltiad ag aer a phan nad yw'r cyflenwadau dŵr a thrydan wedi'u cysylltu.
Os nad oes angen tŵr mwyach ac mae'n cael ei ddatgomisiynu neu ei ddatgymalu, dylid hysbysu'r awdurdod lleol am hyn hefyd.
Os oes angen i chi gofrestru tŵr oeri neu newid manylion tŵr a gofrestrwyd eisoes, mae'r ffurflenni cais a'r wybodaeth angenrheidiol i'w cael yn y fan hon.
Os ydych yn pryderu am dŵr oeri gan eich bod yn tybio nad yw wedi'i gofrestru neu na chaiff ei gynnal yn briodol, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.
Cofrestru Tŵr Oeri
Crynodeb o'r Drwydded
Os ydych yn gyfrifol am reoli safle annomestig, rhaid i chi sicrhau eich bod yn hysbysu'r awdurdod lleol am unrhyw dŵr oeri neu gyddwysydd anweddol (dyfeisiadau hysbysadwy) ar y safle hwnnw.
Rhaid cyflwyno'r hysbysiad yn ysgrifenedig (gan gynnwys trwy ddulliau electronig) gan ddefnyddio ffurflen a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Rhaid i chi hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a gyflwynwyd o fewn mis o'r newid.
Os yw'r ddyfais yn peidio â bod yn ddyfais hysbysadwy, rhaid i chi hysbysu'r awdurdod lleol neu gyngor yr ynys neu'r cyngor dosbarth yn ysgrifenedig, a hynny cyn gynted â phosibl.
Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon (yn agor mewn tab newydd)
Sut i wneud cais
Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded bresennol, gall yr hysbysiad o dyrau oeri a chyddwysyddion anweddol (yn agor mewn tab newydd) ei lawrlwytho yma.
Ffïoedd ymgeisio
Nid oes tâl am y broses ymgeisio.
Y broses ymgeisio
Mae'r broses o gofrestru tŵr oeri yn syml iawn. Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, byddwn yn rhoi manylion eich safle ar y Gofrestr Tyrau Oeri. Mae'r gofrestr hon yn ddogfen gyhoeddus.
Pan fydd eich safle wedi'i gofrestru, fe allwn ei arolygu os ydym ni'n gyfrifol am orfodi iechyd a dioglewch arno, neu ei samplu fel rhan o'n rhaglen samplu. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd cofrestru yn effeithio ar eich sgôr risg neu nifer yr arolygiadau a gynhaliwn o'ch safle.
Sylwer, bydd angen i chi newid eich manylion cofrestru os yw eich busnes neu eich tŵr oeri yn newid mewn unrhyw ffordd.
Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan, a gallem hefyd rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill fel y bo'n briodol.
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?
Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gennym erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, sef 28 diwrnod o gyflwyno eich cais gorffenedig.
Apeliadau a Chwynion
Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol.
Arweiniad arall
Mae gwybodaeth am glefyd y llengfilwyr, mesurau i'w atal a'r gyfraith ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.