Daw peryglon ar y ffyrdd mewn sawl ffurf a siâp. Gall gollyngiadau ar y ffordd fod yn arbennig o beryglus i bawb sy'n defnyddio'r ffordd, yn enwedig y rheiny sy'n gyrru beiciau modur neu sy'n beicio. Gall y gollyngiadau hyn fod yn hylifau neu'n ddeunyddiau solet a gallant fod o ganlyniad i wrthdrawiad neu ollyngiad damweiniol o gerbyd neu drelar masnachol.

Y prif enghreifftiau o ollyngiadau ar y ffordd yw mwd a phridd (sy'n cael eu gadael fel arfer gan gontractwyr adeiladu neu ffermwyr) adeg tywydd gwlyb. Mae gollyngiadau cyffredin eraill yn cynnwys olew, gro, tywod neu unrhyw gargo sy'n syrthio o gerbydau.

Y Cyngor sy'n gyfrifol am gadw'r ffordd yn lân ac yn rhydd o ollyngiadau. Pan fydd gollyngiadau'n beryglus, mae'n bosibl y bydd yr heddlu a'r gwasanaeth tân lleol yn chwarae rhan yn y digwyddiad ac mae'n bosibl y bydd rhaid cau'r ffordd.

Anelwn at ddelio â phob digwyddiad peryglus yn syth ar ôl i ni glywed amdanynt.

Rhoi Gwybod

Mae'r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth galw allan 24 awr, 365 diwrnod er mwyn ymateb i ddigwyddiadau brys/ymatebol, fel gollyngiadau ar wyneb ffyrdd, cau ffyrdd a gwyro traffig, yn ôl y gofyn.

Os gwelwch ollyngiadau ar y ffordd - gallai hyn gynnwys olew, gro, tywod neu rywbeth yn syrthio o gerbyd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynghylch yr unigolyn a achosodd y trosedd, boed yn ddamweiniol neu'n fwriadol, soniwch am hyn pan fyddwch yn rhoi gwybod am y digwyddiad. Bydd hyn yn ein helpu i adfer unrhyw gostau oddi wrth y rheiny sy'n gyfrifol.

Os ydych yn pryderu am ollyngiad, peidiwch â cheisio delio ag ef eich hun.

Galw Torfaen