Nid oes diffiniad cyfreithiol o gerbyd wedi'i adael, ond gellir ystyried bod cerbyd wedi'i adael os ydyw:

  • Heb dreth a heb geidwad cofrestredig ar gofnodion y DVLA
  • Wedi'i ddifrodi'n sylweddol, wedi mynd â’i ben iddo neu nad yw’n addas i’w yrru ar y ffordd
  • Wedi ei losgi’n ulw
  • Heb un neu fwy o'i blatiau rhif
  • Os yw’n llawn sbwriel neu wastraff
  • Heb symud am gyfnod sylweddol o amser
  • Cerbyd nad oes unrhyw un byth yn dychwelyd ato

Nid yw'r ffaith bod cerbyd mewn cyflwr gwael neu heb ei drethu yn golygu ei fod wedi'i adael ac efallai y bydd angen gwneud ymholiadau i ganfod a yw wedi'i adael cyn y gellir ei symud.

Gallwch ganfod a yw cerbyd wedi ei drethu ar vehicleenquiry.service.gov.uk (yn agor mewn tab newydd)

Os oes gan y cerbyd dreth dilys, peidiwch â’i riportio fel un sydd wedi'i adael.

Os yw cerbyd heb dreth, dylech rhoi gwybod i’r DVLA (yn agor mewn tab newydd).

Os yw cerbyd ar dir preifat, mae'n rhaid i ni gyflwyno rhybudd o 15 diwrnod i berchennog y tir. Pan fydd y 15 diwrnod wedi dod i ben, bydd y cerbyd yn cael ei drin fel pe bai ar briffordd.

Os yw cerbyd yn achosi rhwystr ar y briffordd, neu os credir ei fod wedi'i ddwyn neu ei fod wedi bod yn rhan o drosedd, rhowch wybod i Heddlu Gwent ar 01633 838111.

Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael

I roi gwybod am gerbyd wedi'i adael, rhowch y canlynol:

  • Lleoliad y cerbyd
  • Pa mor hir mae’r cerbyd wedi bod yno
  • Gwneuthuriad a lliw'r cerbyd
  • Rhif cofrestru’r cerbyd
  • Cadarnhad bod y cerbyd heb dreth
  • Cyflwr y cerbyd yn gyffredinol
Dweud am gerbyd wedi ei adael (yn agor mewn tab newydd)