Beth yw graffiti?
Bydd pob un ohonom yn gweld graffiti o bryd i'w gilydd wrth i ni fynd ymlaen â'n bywyd pob dydd yn y gymuned. Geiriau, lliwiau, patrymau a siapiau ydyw sy'n cael eu tynnu neu eu crafu ar adeiladau, tanffyrdd, trenau, bysiau ac arwynebau eraill. Fe'i gwneir heb ganiatâd ac mae yn erbyn y gyfraith.
Sut mae hyn yn niweidio ein cymuned?
Mae graffiti yn cynyddu ofn troseddau yn y gymuned gan ei fod yn cyfleu'r neges nad oes neb yn poeni.
Mae'r gwaith o'i lanhau yn ddrud, felly mae'n tynnu arian oddi wrth ein gwasanaethau eraill. Mae graffiti'n costio dros £1 biliwn y flwyddyn i'r Deyrnas Unedig.
Mae graffiti yn achosi i'r cyhoedd deimlo mwy o ofn troseddau yn yr ardal honno. Gall ostwng gwerth eiddo ac, weithiau, gall achosi i'r ardal golli twristiaeth a busnes.
Yn aml, gall graffiti ddenu mwy o graffiti i'r ardal.
Beth yw'r ffordd orau o'i atal?
Y ffordd orau o'i atal yw cael gwared arno cyn gynted â phosibl. Os ydych yn cael gwared ar graffiti, mae astudiaethau wedi dangos bod y rhai sy'n gyfrifol amdano'n rhoi'r gorau iddi ymhen hir a hwyr.
Beth yw'r gyfraith ar graffiti?
Gall pobl sy'n cael eu dal yn achosi graffiti gael eu harestio a'u herlyn o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Gall troseddwyr gael dirwy o hyd at £5000 os cyflawnir difrod troseddol sy'n werth dros £5000.
Pan fydd y difrod troseddol o dan £5000, gellir cosbi hynny trwy hyd at dri mis o garchar a/neu ddirwy o £2500 ar hyn o bryd. Gellir rhoi gorchymyn gwasanaeth cymunedol i droseddwyr ifanc.
Beth i'w wneud os byddwch yn gweld graffiti?
Os byddwch yn gweld graffiti, rhowch wybod i ni fel y gallwn wneud trefniadau i waredu arno.
Dweud am broblem graffiti (yn agor mewn tab newydd)Bydd angen disgrifiad arnom o leoliad y graffiti ac, os ydynt yn hysbys, manylion cyswllt perchennog yr eiddo.
Byddwn wedyn yn edrych ar faint y prosiect a'i gyfeirio at y tîm priodol, i waredu arno.
Byddwn yn gwneud y gwaith cyn gynted â phosibl.
Byddwn yn dileu graffiti casineb, hiliol a graffiti sarhaus o fewn 48 awr.
Os byddwch yn gweld rhywun yn creu graffiti ar adeiladau, cysylltwch â'r Heddlu ar unwaith ar 01633 838111.