Members of the Torfaen Youth Forum

Mae Fforwm Ieuenctid Torfaen yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddweud wrth y cyngor am faterion sy'n bwysig iddyn nhw, a chyfrannu at benderfyniadau mae'r cyngor yn eu gwneud.

Mae'r fforwm yn agored i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sy'n byw yn Nhorfaen.

Mae'n cyfarfod unwaith y mis yn ystod y tymor ysgol.

Caiff aelodau eu recriwtio unwaith y flwyddyn drwy ysgolion, clybiau ieuenctid a grwpiau cymunedol.

Blaenoriaethau Fforwm Ieuenctid Torfaen ar gyfer 2025-26 yw iechyd meddwl a llesiant.

  • Byddwn yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth am anghenion iechyd meddwl dynion ifainc
  • Byddwn yn gweithio gydag ysgolion i leihau apwyntiadau cychwynnol gyda chwnselwyr
  • Byddwn yn sicrhau bod materion iechyd meddwl yn cael eu codi mewn gwasanaethau ysgolion a bod pobl ifanc yn cael mwy o ddylanwad ar sut mae cymorth iechyd meddwl yn cael ei ddarparu mewn ysgolion
  • Byddwn yn helpu i hyrwyddo llinellau cymorth iechyd meddwl
  • Byddwn yn gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i greu posteri a fideos i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl

Mae'r fforwm wedi ymrwymo i weithio gyda phob person ifanc, beth bynnag yw ei rhyw, ffydd, hil, anabledd, neu gyfeiriadedd rhywiol.

I gael gwybod sut mae’r cyngor yn cefnogi pobl ifanc i gael llais, gweler Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc.

Fforwm Ieuenctid Torfaen