Mae Panel y Bobl Torfaen yn cynnwys trigolion o wahanol oedran a chefndiroedd o bob cwr o’r fwrdeistref a’i nod yw cynrychioli poblogaeth Torfaen o ran rhywedd, ethnigrwydd a daearyddiaeth.
Mae Panel y Bobl Torfaen yn rhoi cyfle i drigolion i lunio sut cyflenwir gwasanaethau cyhoeddus yn lleol naill ai gan y Cyngor neu gan bartneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.
Gall aelodau’r Panel gymryd rhan mewn nifer o wahanol ffyrdd a phenderfynu ar lefel eu cyfranogiad. Gall aelodau:
- Gyfrannu at ymgynghoriadau
- Mynychu grwpiau ffocws/trafodaeth
- Gweithio gyda sefydliadau i lunio polisi a chyflenwi gwasanaeth
- Gwneud sylwadau ar bolisïau
- Gwneud sylwadau ar strategaethau
- Cymryd rhan ym mhrosesau craffu’r cyngor
I gael rhagor o wybodaeth ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, ewch i’w gwefan www.gwentpsb.org (yn agor mewn tab newydd).
Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd
Rydym yn gwerthfawrogi barn pobl sy'n byw ac yn gweithio yn Nhorfaen. Mae ein meysydd gwasanaeth yn annog aelodau'r gymuned i gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, a defnyddio eu barn a'u profiadau i lywio cynlluniau, polisïau a chamau gweithredu.
Dogfennau
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd (yn agor mewn tab newydd)pdf file[353KB]