Mae tri fforwm annibynnol 50+ yn cael eu cefnogi gan Gyngor Torfaen, mewn partneriaeth gydag Age Connects Torfaen:

  • Fforwm 50+ Blaenafon
  • Fforwm Cymorth Pobl Hŷn Pont-y-pŵl
  • Fforwm 50+ Cwmbrân

Mae’r grwpiau yn cyfarfod bob mis, wyneb yn wyneb, yn y trefi dan sylw. Mae croeso i unrhyw un sy’n 50 oed neu drosodd ac yn byw yn yr ardal fynychu a dod yn aelod.

Drwy fynychu cyfarfodydd Fforwm 50+, byddwch:

  • Yn cael gwybod am newyddion a gwybodaeth leol (gan gynnwys diweddariadau gan Age Connects Torfaen, y Cyngor a Gwasanaethau Cyhoeddus eraill)
  • Yn clywed gan siaradwyr gwadd am bynciau diddorol
  • Yn gallu cymryd rhan mewn ymgynghoriadau a chael cyfle i leisio barn ar faterion sy’n eich effeithio
  • Yn cael cyfarfod pobl newydd
  • Yn cael cyfle i fynd ar deithiau coets o bryd i’w gilydd

Cynhelir y cyfarfodydd ar brynhawn dydd Mawrth:

  • Blaenafon - 1af dydd Mawrth y mis
  • Pont-y-pŵl - 2il ddydd Mawrth y mis
  • Cwmbrân - 4ydd dydd Mawrth y mis

Mae’r fforymau yn cyfarfod am 11 mis o’r flwyddyn ac yn trefnu cinio Nadolig braf ym mis Rhagfyr!

Lleoliadau

  • Blaenafon – Ysgoldy’r Capel, Eglwys Bedyddwyr Bethel, King Street, Blaenafon, NP4 9QQ
  • Pont-y-pŵl - Canolfan Widdershins, Sebastopol, Pont-y-pŵl, NP4 5AB
  • Cwmbrân - Eglwys Ddiwygiedig Unedig Cwmbrân, Hen Gwmbrân, NP44 3LR