Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, fel Rheolwr Data, wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y mathau o ddata sydd gennym amdanoch chi, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’r data a’r mesurau diogelu sydd ar waith i’w ddiogelu.
Maes Gwasanaeth CBST: Economi a Lle
Maes Gwaith: Cyllid Allanol
Manylion Cyswllt: externalfunding@torfaen.gov.uk
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Y Gronfa Twf Leol (LGF)
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y cyfeirir ato fel 'CBST', 'y Cyngor', 'yr Awdurdod Lleol', 'ni', neu 'ein') yn casglu data personol, ei ddefnyddio, ei storio a’i brosesu at ddibenion gweinyddu a chyflawni ei gyfrifoldebau yn rhan o Raglen Cronfa Twf Lleol (CTLl) rhanbarth De-ddwyrain Cymru ac yn dyrannu grantiau dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBS RhCT).
Mae'r CTLl yn rhaglen ariannu newydd dros gyfnod o dair blynedd i gefnogi’r gwaith o gyflawni cenhadaeth economaidd Llywodraeth Cymru ac agenda Llywodraeth y DU ar gyfer twf.
Bydd pob awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru yn casglu data personol sy'n ymwneud â’r rheini sy’n buddio o’r gronfa, gan gynnwys unigolion, gweithwyr a busnesau. Bydd CBS RhCT a Llywodraeth Cymru monitro ac yn cynnal gwiriadau sicrwydd i sicrhau bod y cyllid wedi ei ddyrannu a’i ddefnyddio’n unol â gofynion y rhaglen CTLl.
Bydd data personol sy’n cael ei brosesu’n rhan o'r gwiriadau monitro hyn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ein rhwymedigaethau yn unig ac ni chaiff ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?
Mae’r wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni yn uniongyrchol gennych chi (fel buddiolwyr) yn rhan o’r amau hanfodol i gyflawni prosiectau’r Gronfa Twf Lleol, fel y gallwn gysylltu â chi ynglŷn â'ch prosiect ac i gyflawni gofynion monitro. Gallwn hefyd ei defnyddio i gysylltu â chi am faterion sy’n ymwneud yn benodol â'r Gronfa.
Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?
- Drwy alwad ffôn
- Trwy ddata symudol
- Trwy e-bost
- Trwy lythyr
- Trwy ymweliad personol â'r Ganolfan Ddinesig
- Trwy'r cyfryngau cymdeithasol
- Drwy ffurflenni cais electronig
Pa wybodaeth y mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Data personol sy'n ymwneud â'r canlynol yn rhinwedd cyfrifoldebau Corff Arweiniol Rhaglen Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gyfer Cronfa Twf Lleol Torfaen a weinyddir drwy Lywodraeth Cymru (WG)
- Buddiolwyr y Gronfa Twf Lleol (Unigolyn/Busnes/Staff)
Efallai y byddwn yn prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol yn rhinwedd ein cyfrifoldebau fel partner i CTLl De Cymru:
Unigol
- Gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost
- Dynodwyr personol fel dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a chyfeirnod cyflogres
- Dewis iaith
- Rhyw
- Ethnigrwydd
- Iechyd ac Anabledd
- Cyflogaeth ac Addysg
- Gwybodaeth Ariannol
Busnesau
- Rhif cofrestru Tŷ'r Cwmnïau
- Enw’r gweithiwr, ei rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Data Ariannol Cyflogres a slipiau cyflog
- Manylion cyfrif banc gan gynnwys cyfriflenni
Pam y mae’r Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus
Categorïau arbennig o ddata personol
Rydym yn casglu'r data categori arbennig a ganlyn:
- data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
- data sy’n ymwneud ag iechyd
Rydym yn ei gasglu dan Erthygl 9 GDPR y DU
AC
Nid ydym yn casglu unrhyw ddata’n ymwneud â throseddau
Pwy sydd â mynediad at eich data?
Mae eich data yn cael eu rhannu'n fewnol gyda'r staff priodol yn unig, pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni eu rolau.
Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu'n allanol gyda’r sefydliadau a ganlyn i gyflawni rhwymedigaethau'r Cyngor fel partner sy’n dyrannu grant CTLl rhanbarth De Ddwyrain Cymru:
- Rhondda Cynon Taf – Awdurdod arweiniol ar gyfer De Ddwyrain Cymru
- Llywodraeth Cymru – Gweinyddwyr cyllid CTLl yng Nghymru
- Llywodraeth y DU – Cyllidwyr CTLl
Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo allan o’r DU?
Nac ydy
Sut y mae’r Cyngor yn cadw eich data yn ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
Bydd data’n cael ei storio ar system TG ddiogel.
Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd parti dan sylw ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n ofynnol iddynt ddilyn mesurau priodol i sicrhau bod y data’n ddiogel.
Am ba hyd mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am y cyfnod sy'n angenrheidiol yn unig, a bydd yn dilyn safonau’r sefydliad a’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio’r data neu'n cael gwared arno yn ddiogel, yn unol ag amserlenni cadw.
Cedwir y data personol am 10 mlynedd ar ôl i daliad terfynol y gronfa gael ei ddyrannu.
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu cyfnod cadw o 10 mlynedd ar gyfer dogfennaeth yn ymwneud â grantiau a ffeiliau prosiectau o dan Rhestr Cadw a Gwaredu Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd), sy’n cyd-fynd â thelerau preifatrwydd grant safonol y sector cyhoeddus ac amodau cyllido rhanbarthol. Yn yr un modd, mae awdurdodau gweinyddu lleol (fel cynghorau sir arweiniol sy'n rheoli cronfeydd a ddyrennir yn rhanbarthol) yn nodi yn eu Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Twf Lleol (yn agor mewn tab newydd) bod data personol a data cyllid yn cael ei gadw am 10 mlynedd o ddyddiad y taliad diwethaf fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.
Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/ proffilio gyda'ch data?
Nac ydyn
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
- Cywiro - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- Symud data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod y canlyniad os byddwch yn methu â darparu data i’r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi
- Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw rhai o’r hawliau hyn, cysylltwch os gwelwch yn dda â: (Tina Meredith Uwch Gydlynydd y Rhaglen ar externalfunding@torfaen.gov.uk)
Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2 il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk