Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig at ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Yr Economi a'r Amgylchedd
Maes Gwaith: Gwastraff ac Ailgylchu
Manylion Cyswllt: Josie Perry
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Gorfodi Gwastraff

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae tîm Addysg a Gorfodi'r Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu yn casglu data ffotograffig, fideo a sain i gynorthwyo i ddiogelu diogelwch Swyddogion, ac i gynorthwyo pan fydd angen gorfodi deddfwriaeth sy'n ymwneud â throseddau gwastraff.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu, ar ffurf ffilm, fideo a sain o unrhyw gyfathrebu/rhyngweithio, yn cael ei ddal fel a ganlyn:

  • Tystiolaeth ffotograffig a gafwyd o'ch gwastraff
  • Deunydd fideo a sain a gafodd eu dal ar offer Camera a Wisgir ar y Corff gan ein Swyddogion. Bydd unigolion yn cael gwybod bod Swyddogion yn ffilmio ar y pwynt cyswllt cyntaf.

Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?

  • Ffotograffau a dynnwyd ar ddyfeisiau symudol
  • Deunydd a dderbyniwyd gennych chi yn bersonol
  • Chwilio gwybodaeth am y Dreth Gyngor (gan ddefnyddio cyfeiriad i adnabod preswyliwr a enwir)
  • Camerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae’r Cyngor yn casglu a phrosesu ystod o wybodaeth amdanoch. Mae hyn yn cynnwys rhai o’r canlynol, neu y cyfan ohonynt yn ôl y cyd-destun:

  • Enw
  • Cyfeiriad cartref
  • Cyfeiriad E-bost
  • Rhif ffôn
  • Ffilm fideo a sain o ryngweithio gyda Swyddogion

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

  • Mae gennym ymrwymiad cyfreithiol
  • Rydyn ni ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus

Categorïau arbennig o ddata personol

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond efallai y bydd hyn yn cael ei gasglu mewn fideo o gamerâu a wisgir ar y corff. Gall hyn gynnwys:

  • Data personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
  • Data personol yn datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
  • Data sy’n ymwneud ag iechyd

Rydym yn casglu hyn o dan Erthygl 9 GDPR y DU.

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig yn uniongyrchol, ond efallai y bydd hyn yn cael ei gasglu mewn fideo o gamerâu a wisgir ar y corff. Rydym yn prosesu hyn o dan Erthygl 10 GDPR y DU.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol, gyda’r staff priodol yn unig. Os yw’n angenrheidiol iddynt gyflawni’u dyletswyddau. Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu gyda meysydd gwasanaeth o fewn y Cyngor, fel yr adran Gyfreithiol neu Yswiriant, os oes angen hynny ar gyfer camau gorfodi neu ymchwiliadau pellach.

Efallai hefyd y bydd eich data yn cael ei rannu’n allanol gyda sefydliadau i ddibenion prosesu ymchwiliadau troseddol neu sifil neu achosion cyfreithiol. Gall y rhain gynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i:

  • Heddlu Gwent Police
  • Gwasanaeth y Llys

Ac eithrio lle nodwyd eisoes, nid ydym yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bod gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Nac ydy

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu’n mynd ar goll, cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio neu ei ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel mewn:

  • Storfa ddiogel yn y cwmwl
  • Mewn lleoliadau storio ar rwydwaith ddiogel

Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y bob trydydd parti ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau bod ganddynt fesurau priodol ar waith i sicrhau bod y data’n ddiogel.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Mae fideo yn cael ei ddileu yn awtomatig ar ôl 30 diwrnod os nad oes ei angen fel tystiolaeth. Mae unrhyw fideo a gedwir fel tystiolaeth ar gyfer camau gorfodi neu gyfreithiol yn cael ei ddileu yn unol ag atodlenni cadw safonol.

Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda'ch data?

Nac ydym

Eich hawliau

Mae gennych chi nifer o Hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Y Tîm Rheoli Gwastraff ar waste@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk