PN139 - Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Datblygu Lleol Torfaen
MMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn eu cadw amdanoch, sut rydym yn eu defnyddio, eich hawliau mewn perthynas â'r data a’r mesurau diogelu sydd ar waith i’w hamddiffyn. Mae'n angenrheidiol i'r Cyngor grynhoi gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â dogfennau sy'n gysylltiedig â Chynllun Datblygu Lleol Torfaen a fabwysiadwyd, gan gynnwys Canllawiau Cynllunio Atodol a'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC), a chasglu'r data hyn, eu storio a'u prosesu.
Maes Gwasanaeth CBST: Yr Economi a Lle
Maes gwaith: Cynllunio a Gweithredu Polisïau
Manylion Cyswllt: E-bost ldp@torfaen.gov.uk neu adrian.wilcock@torfaen.gov.uk - Ffôn 01633 648039
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Cynllun Datblygu Lleol Torfaen
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi'i ysgrifennu'n benodol i gynnwys dogfennau cysylltiedig Cynllun Datblygu Lleol Torfaen gan gynnwys Dogfennau Canllawiau Atodol a'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC).
Pwy sy'n rhoi eich data i'r Cyngor?
Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni'n uniongyrchol gennych chi, neu gan eich asiant (a awdurdodwyd gennych), mewn ymateb i:
- Gyfleoedd Ymgynghori ar gyfer y Cyhoedd / Rhanddeiliaid
- Ceisiadau i gael gwybod am ddiweddariadau a chynnydd ynghylch Canllawiau Cynllunio Atodol a'r Ardoll Seilwaith Cymunedol o dan CDLl Torfaen.
Dydyn ni ddim yn cael gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol o unrhyw ffynhonnell arall.
Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?
- Ffurflenni electronig trwy OpusConsult (cronfa ddata benodol i gefnogi proses y CDLl)
- Ffurflenni electronig trwy arolwg ar dudalennau gwe CBST
- Negeseuon e-bost y mae'r Tîm yn eu cael
- Llythyrau y mae'r Tîm yn eu cael
- Cyswllt wyneb yn wyneb â'r Tîm
Pa wybodaeth y mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae'r Tîm Cynllunio a Gweithredu Polisïau yn casglu:
Cyfleoedd Ymgynghori â'r Cyhoedd
- Enw
- Teitl y Swydd a'r Cyflogwr / Sefydliad (os yw'n berthnasol)
- Manylion cyswllt (cyfeiriad post a / neu gyfeiriad e-bost, rhif ffôn)
- Unrhyw wybodaeth bersonol a ddatgelwyd mewn sylwadau a wnaed
Ceisiadau i gael gwybod am ddiweddariadau a chynnydd ynglŷn â'r Canllawiau Cynllunio Atodol a'r Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Torfaen
- Enw
- Teitl Swydd a Chyflogwr / Sefydliad (os yw'n berthnasol)
- Manylion cyswllt (cyfeiriad post a / neu gyfeiriad e-bost)
Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?
O dan Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
(a) Eich cydsyniad. Mae hyn os ydych chi'n tanysgrifio i gael diweddariadau gennym ni. Mae’r cydsyniad yn berthnasol dim ond at y diben penodol y rhoddwyd cydsyniad ar ei gyfer a gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Nid ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sylfaen gyfreithiol ar gyfer unrhyw brosesu arall.
(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol.
(e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus
Mae angen y wybodaeth hon arnom hefyd i gyflawni ein dyletswyddau o dan y canlynol:
- Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a'r Rheoliadau cysylltiedig
- Deddf Cynllunio a Digolledu 1991 - diwygio'r Ddeddf uchod
- Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 - diwygiodd Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
- Adran 19 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004
- Rhan 11 o Ddeddf Cynllunio 2008
- Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'u diwygiwyd)
- Polisi Cynllunio Cenedlaethol / Polisi Cynllunio Cymru
- Llawlyfr Cynlluniau Datblygu 3 (2020) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
Mae angen y wybodaeth hon arnom i:
- Brosesu sylwadau am y Canllawiau Cynllunio Atodol
- Prosesu sylwadau am yr Ardoll Seilwaith Cymunedol
- Cysylltu â chi at ddibenion ymchwil i'n galluogi i wella'r gwasanaethau a gynigir gennym. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost neu lythyr neu dros y ffôn.
Os oes gennym eich cydsyniad i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol, mae gennych yr hawl i'w dynnu yn ôl ar unrhyw adeg. Os ydych chi eisiau tynnu eich cydsyniad yn ôl, cysylltwch â dpa@torfaen.gov.uk i ddweud wrthym pa wasanaeth rydych chi'n ei ddefnyddio er mwyn i ni allu delio â'ch cais.
Data personol categori arbennig
Dydyn ni ddim yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig neu ddata troseddol, fodd bynnag, gallai'r rhain gael eu casglu os ydych chi'n cynnwys gwybodaeth o'r fath mewn testun agored / sylwadau.
Pwy sy'n cael mynediad at eich data?
Er mwyn galluogi'r Cyngor i ddelio â'ch cyfranogiad chi yn y broses a chydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau partner, gan gynnwys:
- Yn fewnol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Eich cynrychiolwyr cyfreithiol
- Darparwr ein gwasanaeth TGCh - Y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS)
- Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
Efallai y bydd eich data hefyd yn cael eu rhannu'n allanol gyda sefydliadau at ddibenion cynnal cronfa ddata Opus Consult ac ar gyfer gwneud y gwaith asesu priodol ar gyfer Canllawiau Cynllunio Atodol a'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Gall y rhain gynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt:
- JDI Solutions Limited a Blue Fox Technology Limited sy'n cynnal System Opus Consult / Map
Ac eithrio lle nodwyd yn barod, dydyn ni ddim yn rhoi eich manylion i unrhyw drydydd parti oni fo gofyn i ni wneud hynny dan y gyfraith.
Cyfleoedd Ymgynghori â'r Cyhoedd
Rhoddir rhif cynrychiolydd / sylwadau i bob ymatebydd i ymgynghoriadau cyhoeddus am y Canllawiau Cynllunio Atodol neu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Ar ôl cwblhau pob ymgynghoriad, mae'n ofynnol i'r Cyngor lunio Adroddiad am yr Ymgynghoriad, lle mae swyddogion yn manylu ar bob ymateb sy'n dod i law ac yn rhoi sylw iddo, yn ei ystyried ac yn ei gyhoeddi. Cyfeirir at sylwadau a wneir gan unigolion yn ôl rhif cynrychiolydd yn unig. Cyfeirir at sylwadau a gyflwynir ar ran cwmni / sefydliad yn ôl rhif y sylwadau a'r cwmni / sefydliad. Ni chyhoeddir enw na manylion cyswllt unigol yn Adroddiad yr Ymgynghoriad.
Archwilio'r Ardoll Seilwaith Cymunedol
Gellid gwahodd ymatebwyr i'r ymgynghoriad ar Atodlen Codi Tâl Ddrafft Ardoll Seilwaith Cymunedol Torfaen a Rhestr Seilwaith Rheoliad Drafft 123 i gyflwyno'u sylwadau yn bersonol i Archwilydd annibynnol yn ystod Archwiliad o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Yn ystod y cyfarfod cyn yr Archwiliad, gall yr Archwilydd ofyn am ddewis llefarydd pan fydd sawl cynrychiolydd wedi gwneud sylwadau tebyg, ond mae pob un wedi nodi eu bod yn dymuno bod yno, er mwyn osgoi dyblygu. Os bydd hyn yn digwydd, bydd Swyddog y Rhaglen yn gofyn i chi am eich caniatâd i rannu eich manylion cyswllt.
Dylai'r rheiny sy'n dewis cymryd rhan yn yr Archwiliad nodi bod gofyn i'r Cyngor
gyhoeddi unrhyw ddatganiadau / dogfennau a ddarperir ar gyfer yr archwiliad,
ynghyd ag Adroddiad yr Archwilydd am yr Archwiliad. Dim ond enw'r ymatebwyr
a'r sylwadau a wnaed fydd yn cael eu cyhoeddi.
Ydy’r data’n cael eu trosglwyddo allan o’r DU?
Ydyn. Mae ein proseswyr wedi'u lleoli y tu allan i’r DU neu'n prosesu data y tu allan i'r DU, maen nhw o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac mae'r darpariaethau Diogelu Data priodol ar waith.
Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n eu prosesu’n cael eu colli, eu dinistrio'n ddamweiniol, eu camddefnyddio na’u datgelu. Cyfyngir ar fynediad at y data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
Bydd data’n cael eu storio’n ddiogel:
- Mewn Rhwydwaith Diogel
- Ar Gwmwl Diogel
- Mewn storfa ffisegol ddiogel ar gyfer copïau papur a chaled
Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan y trydydd partïon hyn ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.
Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol, a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.
Darparu gwybodaeth gywir
Mae'n bwysig ein bod yn cadw gwybodaeth gywir a chyfredol amdanoch er mwyn asesu eich anghenion a darparu'r gwasanaethau priodol. Os yw unrhyw rai o'ch manylion yn anghywir neu'n anghyflawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiweddaru eich cofnodion.
Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda'ch data?
Nac ydyn
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
- Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- Cludadwyedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu’ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod canlyniadau methu â rhoi data i’r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio, a chanlyniadau hyn i chi
- Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod sy'n goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch ag: Adrian Wilcock, Arweinydd Tîm: Cynllunio a Gweithredu Polisïau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Glantorfaen Road, Pont-y-pŵl NP4 6YB: adrian.wilcock@torfaen.gov.uk
Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost at Wales@ico.org.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 11/03/2026
Nôl i’r Brig