PN067 - Hysbysiad Preifatrwydd Cymorth Busnes Ecosystemau Arloesol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny, a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.
Maes Gwasanaeth CBST: Economi a Lle
Maes gwaith: Arloesi
Manylion Cyswllt: Gaynor Wakeling a Joanne Doubler
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Cymorth Busnes Ecosystemau Arloesol
Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB
Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk
Rydym yn darparu cymorth busnes arbenigol ar dwf arloesol i fusnesau yn Nhorfaen ac economi ehangach y DU drwy gymorth wyneb yn wyneb/ar-lein, mannau i gydweithio , ystafelloedd cyfarfod y gellir eu harchebu a digwyddiadau busnes.
Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?
Mae'r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu yn cael ei darparu'n uniongyrchol gennych chi.
Rydym yn casglu'r data busnes hwn i gefnogi’r economi ehangach yn Nhorfaen.
A
Teledu cylch cyfyng ar safle Canolfan Arloesi Busnes Springboard gan drydydd parti dan gytundeb
A
Rydym yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol gan sefydliadau eraill y llywodraeth i gefnogi’r economi ehangach yn Nhorfaen.
Rydym yn derbyn data personol gan atgyfeiriadau trydydd parti eraill i roi cymorth busnes i fusnesau.
Rydym yn derbyn data wedi'i brosesu o fannau cydweithio, ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau a drefnir.
Sut mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?
- Cynlluniau Busnes
- Llif Arian/Cyllid
- Post Electronig
- Holiaduron
- Ceisiadau am gyllid
- Digwyddiadau
- Cyfarfodydd wyneb yn wyneb
- Lluniau teledu cylch cyfyng
Pa wybodaeth mae'r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?
Mae Cymorth Busnes Ecosystemau Arloesol yn casglu:
- Enw
- Cyfeiriad y busnes a'r cartref
- Manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn, cyfeiriad e-bost
- Nifer y gweithwyr
- Buddsoddwyr / deiliaid cyfranddaliadau
- Gwybodaeth Ariannol
- Lluniau teledu cylch cyfyng
Pam mae’r Cyngor yn prosesu eich data personol?
Dan Erthygl 6, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
(e) Mae arnom ei hangen i gyflawni tasg gyhoeddus.
Categorïau Arbennig o ddata personol
Gallwn gasglu'r data categori arbennig canlynol:
- data personol sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig
- data personol sy'n datgelu barn wleidyddol
- data personol sy'n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
- data personol sy'n datgelu aelodaeth undeb llafur
- data sy'n ymwneud ag iechyd
- data sy'n ymwneud â bywyd rhywiol unigolyn
- data sy'n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol unigolyn
Rydym yn ei gasglu dan Erthygl 9 GDPR y DU.
A
Pan fyddwn yn casglu data troseddol, caiff ei brosesu o fewn y Cyngor o dan Erthygl 10, GDPR y DU.
Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?
Mae eich data’n cael eu rhannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol, pan fydd ei angen arnynt i gyflawni eu rolau.
Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu'n allanol gyda sefydliadau, ar gyfer cymorth busnes a chymorth ariannol. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Sefydliadau dibynadwy y llywodraeth
- Sefydliadau trydydd parti preifat lle rhoddwyd caniatâd
Gellir rhannu lluniau teledu cylch cyfyng yn allanol gyda sefydliadau er diogelwch Ymwelwyr a Staff ac i atal troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Yr Heddlu
- Yswiriant
- Cynrychiolwyr Cyfreithiol
Ar wahân i ble a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti oni bai ei fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.
Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?
Nac ydy
Sut mae'r Cyngor yn cadw eich data yn ddiogel?
Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei brosesu yn mynd ar goll, cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.
- Storfa electronig yng ngyriant rhwydwaith diogel Cyngor Torfaen
- Cyfleusterau storio diogel yn ôl yr angen
Pan fydd y Cyngor yn cyflogi trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, mae’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae dyletswydd cyfrinachedd hefyd yn berthnasol i’r trydydd parti hwn ac mae'n ofynnol iddynt ddilyn mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.
Am ba hyd mae’r Cyngor yn cadw eich data?
Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel, yn unol ag amserlenni cadw.
Ydyn ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?
Na
Eich hawliau
Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:
- Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
- Cywiro - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
- Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
- Symud data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
- Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
- Gwybod y canlyniad os byddwch yn methu â darparu data i’r Cyngor
- Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
- Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)
Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch â: Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru – Parc Llantarnam, Cwmbrân, Torfaen, NP44 3AW - sicreception@torfaen.gov.uk
Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Rhif ffôn 0330 414 6421 neu e-bost: Wales@ico.org.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 12/03/2026
Nôl i’r Brig