Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Bwriad yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am y data rydym yn ei gadw amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â hynny a’r rhagofalon sy’n bodoli i’w amddiffyn.

Maes Gwasanaeth CBST: Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Maes gwaith: Blynyddoedd Cynnar
Manylion Cyswllt Hayley Morgan
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Gofal plant

Rheolwr Data: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Os hoffech fynegi pryder am y modd yr ymdrinnir â’ch data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data ar 01495 762200 neu dpa@torfaen.gov.uk

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn darparu gwybodaeth am ddata a gasglwyd ac a gedwir gan y Cyngor. Mae’n ymwneud â gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru a lleoedd Addysg i blant 3 a 4 oed.

Pwy sy'n darparu eich data i'r Cyngor?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei phrosesu yn cael ei rhoi i ni’n uniongyrchol gennych chi. Defnyddir y wybodaeth i drafod a chydlynu’r gwasanaethau mwyaf priodol i gefnogi eich anghenion sy’n ymwneud â busnes, gofal plant ac anghenion addysgol.

Rydym yn cael gwybodaeth ynghylch lleoliadau yn anuniongyrchol o gyfarfodydd proffesiynol gyda phartneriaid mewnol ac allanol, er enghraifft, ond nid yw hyn wedi’i gyfyngu i: swyddogion Blynyddoedd Cynnar, Addysg Ganolog, timau Cyflogadwyedd, Gwasanaeth Gwella Ysgolion yr Awdurdod Lleol (LASIS), Llywodraeth Cymru, Blaenau Gwent, Sefydliadau Ambarél a rhanddeiliaid eraill ac ati, er mwyn cynllunio'r gefnogaeth fwyaf priodol ar gyfer lleoliadau gofal plant.

Sut mae’r Cyngor yn casglu’r wybodaeth hon?

  • Gwybodaeth gan leoliadau cofrestredig nas cynhelir
  • Gwybodaeth gan leoliadau cofrestredig Dechrau’n Deg
  • Cyfarfodydd/nodiadau lleoliadau ar adroddiadau ymweld Gwasanaeth Gwella Ysgolion yr Awdurdod Lleol (LASIS)
  • Blaenau Gwent - rhannu gwybodaeth
  • Gwybodaeth gan leoliadau cofrestredig y Cynnig Gofal Plant
  • Cyllid cyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar, yn cynnwys cyllid grantiau bach
  • Ceisiadau am gyllid – ee Cynaliadwyedd, grantiau GDBC a Grantiau Ysgol Safonol ac ati
  • Gwybodaeth o ran Derbyn Gofal Plant a Chofrestrau Gofal Plant
  • Manylion ac adroddiadau Graddfeydd Sgorio Amgylcheddol (ERS)
  • Cynllun cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy – cyfarfodydd a manylion
  • Nodiadau ategol yn dilyn ymweliad
  • Gwybodaeth darparwyr gofal plant
  • Hunan-asesiadau ac archwiliadau
  • Diogelu, yn cynnwys Adran 175

Pa wybodaeth mae’r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Tîm Gofal Plant yn casglu ystod o wybodaeth amdanoch chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw arweinydd/rheolwr y lleoliad
  • Manylion cyswllt y lleoliad - cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc / Manylion ariannol – os yw’n berthnasol
  • Nifer y lleoedd gofal plant
  • Nifer y plant sy'n mynychu
  • Nifer y lleoedd nas cynhelir / lleoedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru
  • Gwybodaeth o ran cofrestru gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru
  • Cofrestriad gofal plant y Cynnig Gofal Plant
  • Gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Anghenion Ychwanegol / Anghenion Dysgu Ychwanegol – nodiadau, adroddiadau, cyfarfodydd – gan gynnwys Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (Amdanaf i) a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDUau)
  • Arolygiadau ac arolygon Hyfforddiant
  • Ceisiadau cyllid Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar
  • Manylion gwariant ariannol – derbynebau/anfonebau
  • Manylion ac adroddiadau Graddfeydd Sgorio Amgylcheddol (ERS)
  • Nodiadau'r lleoliad o ran adroddiadau ymweliadau LASIS
  • Dechrau'n Deg - nodiadau adroddiadau ymweliadau, cyfarfodydd, adroddiadau cynllun datblygu'r lleoliad
  • Nodiadau ymweliadau gan y Swyddog Datblygu Gofal Plant
  • Cytundebau Contract – cyfarfodydd, monitro a dogfen wedi'i llofnodi
  • Hunan-asesiadau Adran 175/Amddiffyn
  • Gwybodaeth gaffael ategol

Pam fod y Cyngor yn prosesu eich data personol?

Dan Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU, y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni wrth brosesu’r wybodaeth hon yw:

(e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus.

Categorïau Arbennig o ddata personol:

Rydym yn casglu'r data categori arbennig fel a ganlyn;

  • Data sy’n ymwneud ag iechyd ac anghenion sy’n dod i’r amlwg

Rydym yn casglu hwn dan Erthygl 9, GDPR y DU.

Nid ydym yn casglu data troseddol.

Pwy sydd yn cael defnyddio’ch data?

Bydd eich data’n cael ei rannu’n fewnol yn unig gyda’r staff priodol lle mae'n angenrheidiol iddynt gyflawni eu rolau.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei rannu'n allanol gyda’r sefydliadau hynny sydd orau o ran cefnogi gofal plant. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;

  • Gwasanaeth Gwella Ysgolion yr Awdurdod Lleol (LASIS)
  • Timau Cyflogadwyedd
  • Llywodraeth Cymru

Ar wahân i’r hyn a nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti oni bai bod gofyn inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Ydy’r Data’n cael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU?

Na

Sut mae’r Cyngor yn cadw eich data’n ddiogel?

Mae'r Cyngor yn cymryd diogelwch eich data o ddifri. Ar ben hynny, nid yw gweithwyr yn cyrchu data heblaw bod angen iddynt wneud hynny i gyflawni eu dyletswyddau. Y polisïau sy'n sicrhau hyn yw'r Polisi Diogelu Data, ymhlith eraill. Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw’r data y mae’n ei broses yn mynd ar goll, yn cael ei ddinistrio, ei gamddefnyddio na’i ddatgelu’n ddamweiniol. Cyfyngir ar fynediad i’r data hwn yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data’n cael ei storio’n ddiogel;

  • Mewn cronfa ddata, dogfennau sydd wedi eu diogelu â chyfrinair, rhwydwaith diogel
  • Cypyrddau ffeilio dan glo

Pan fydd y Cyngor yn defnyddio trydydd parti i brosesu data personol ar ei ran, maen nhw’n gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae gan unrhyw drydydd parti ddyletswydd cyfrinachedd hefyd ac mae’n rhaid iddyn nhw weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir mae’r Cyngor yn cadw eich data?

Dim ond am y cyfnod sy'n angenrheidiol y bydd y Cyngor yn cadw eich data personol a bydd yn dilyn safonau sefydliadol a safonau’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw bydd y Cyngor yn dinistrio neu'n gwaredu'r data yn ddiogel yn unol ag amserlenni cadw.

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 7 mlynedd

A ydym ni’n gwneud penderfyniadau awtomataidd/yn proffilio gyda’ch data?

Na

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer:

  • Mynediad - cael copi o’ch data ar gais
  • Cywiriad - mynnu bod y Cyngor yn newid data anghywir neu anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - mewn rhai amgylchiadau penodol gallwch ofyn i’r Cyngor ddileu neu beidio â phrosesu eich data, er enghraifft os nad yw’r data bellach yn angenrheidiol at ddibenion prosesu
  • Hygludedd data – cael derbyn a/neu drosglwyddo data a roddwyd i’r Cyngor i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg (ble rhoddwyd caniatâd)
  • Gwybod canlyniadau eich bod yn methu â darparu data i’r Cyngor
  • Gwybod am fodolaeth unrhyw benderfyniadau awtomataidd, gan gynnwys proffilio a goblygiadau hyn i chi.
  • Hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau yma, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Nicola Bartlett, Rheolwr Gofal Plant - nicola.bartlett@torfaen.gov.uk

Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HH, Ffôn 0330 414 6421 neu e-bost Wales@ico.org.uk