Graffiti - Adrodd a Gwaredu

Beth yw graffiti?

Bydd pob un ohonom yn gweld graffiti o bryd i'w gilydd wrth i ni fynd ymlaen â'n bywyd pob dydd yn y gymuned. Geiriau, lliwiau, patrymau a siapiau ydyw sy'n cael eu tynnu neu eu crafu ar adeiladau, tanffyrdd, trenau, bysiau ac arwynebau eraill. Fe'i gwneir heb ganiatâd ac mae yn erbyn y gyfraith.

Sut mae hyn yn niweidio ein cymuned?

Mae graffiti yn cynyddu ofn troseddau yn y gymuned gan ei fod yn cyfleu'r neges nad oes neb yn poeni.

Mae'r gwaith o'i lanhau yn ddrud, felly mae'n tynnu arian oddi wrth ein gwasanaethau eraill. Mae graffiti'n costio dros £1 biliwn y flwyddyn i'r Deyrnas Unedig.

Mae graffiti yn achosi i'r cyhoedd deimlo mwy o ofn troseddau yn yr ardal honno. Gall ostwng gwerth eiddo ac, weithiau, gall achosi i'r ardal golli twristiaeth a busnes.

Yn aml, gall graffiti ddenu mwy o graffiti i'r ardal.

Beth yw'r ffordd orau o'i atal?

Y ffordd orau o'i atal yw cael gwared arno cyn gynted â phosibl. Os ydych yn cael gwared ar graffiti, mae astudiaethau wedi dangos bod y rhai sy'n gyfrifol amdano'n rhoi'r gorau iddi ymhen hir a hwyr.

Beth yw'r gyfraith ar graffiti?

Gall pobl sy'n cael eu dal yn achosi graffiti gael eu harestio a'u herlyn o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Gall troseddwyr gael dirwy o hyd at £5000 os cyflawnir difrod troseddol sy'n werth dros £5000.

Pan fydd y difrod troseddol o dan £5000, gellir cosbi hynny trwy hyd at dri mis o garchar a/neu ddirwy o £2500 ar hyn o bryd. Gellir rhoi gorchymyn gwasanaeth cymunedol i droseddwyr ifanc.

Beth i'w wneud os byddwch yn gweld graffiti?

Os byddwch yn gweld graffiti, rhowch wybod i ni fel y gallwn wneud trefniadau i waredu arno. 

  • I roi gwybod am graffiti gallwch naill ai:
  • Cysylltwch â'ch Canolfan Cwsmeriaid lleol
  • Rhowch alwad i'r Tîm Troseddau Ieuenctid ar 01495 768300
  • Llenwch y ffurflen i wneud cais i waredu ar graffiti a'i hanfon atom yn y cyfieiriad ar waelod y dudalen. Cofiwch lenwi'r ffurflen ymwadiad os yw'r cais yn ymwneud â gwaredu ar graffiti ar eiddo preifat

Bydd angen disgrifiad arnom o leoliad y graffiti ac, os ydynt yn hysbys, manylion cyswllt  perchennog yr eiddo.

Byddwn wedyn yn edrych ar faint y prosiect a'i gyfeirio at y tîm priodol, i waredu arno.

Byddwn yn gwneud y gwaith cyn gynted â phosibl.

Byddwn yn dileu graffiti casineb, hiliol a graffiti sarhaus o fewn 48 awr.

Os byddwch yn gweld rhywun yn creu graffiti ar adeiladau, cysylltwch â'r Heddlu ar unwaith ar 01633 838111. 

Gwasanaeth gwaredu ar graffiti 

Mae gwasanaeth gwaredu graffiti ar gael yn rhad ac am ddim.

Mae'r gwasanaeth yn cwmpasu ardaloedd Sir Fynwy a Thorfaen ac yn cael ei ariannu gan y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol. Mae'r gwasanaeth hwn yn berthnasol i bob adeilad felly nid oes gwahaniaeth a yw'r graffiti ar adeilad sy'n eiddo i'r cyngor neu eiddo preifat. Fodd bynnag, mae'n rhaid i berchnogion yr eiddo roi caniatâd cyn y gallwn ddelio â graffiti ar eu hadeiladau.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan y Tîm Troseddau Ieuenctid a'r Gwasanaeth Prawf. Mae'r holl waith yn cael ei oruchwylio.

Rydym yn defnyddio paent gwrth-graffiti a farnais i atal digwyddiadau pellach.

Gallwn hefyd gynnig gwasanaeth glanhau yn yr ardal yr ydym yn gweithio ynddi. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cael gwared ar graffiti, codi sbwriel a thorri gwrychoedd yn yr ardal gyfagos.

Mae ein cerbyd chwalu graffiti a ariennir drwy Lywodraeth Cymru, yn ein galluogi i weithio mewn grwpiau i glirio darnau mwy o graffiti.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Troseddau Ieuenctid

Ffôn: 01495 768300

E-bost: graffiti@monmouthshire.gov.uk

Nôl i’r Brig