Sbwriel a baw ci

Cadwch Dorfaen yn Daclus

Mae gan y cyngor rym i roi dirwyon o £100 yn y fan a’r lle i unrhyw un sy’n cael eu dal yn gollwng sbwriel. Mae hyn yn cynnwys sigarennau a phethau fel gweddillion afal a chroen banana. Gall rhai pethau gymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu.

Gall unrhyw un sy’n cael eu dal yn peidio â glanhau baw eu ci hefyd gael dirwy o £100 yn y fan a’r lle.

Gallwch ddweud ar broblem sbwriel neu ddweud am faw ci ar-lein.

Gallwch ddweud hefyd trwy ap Cyngor Torfaen neu drwy ffonio 01495 762200.

Beth mae’r cyngor yn ei wneud?

  • Gwagio 700 o finiau sbwriel pob wythnos
  • Glanhau canolfannau siopa'r cylch pob dydd
  • Glanhau pob stryd unwaith pob pythefnos
  • Parthau Di-Sbwriel – mae ein Swyddog Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yn gweithio gyda busnesau i greu Parthau Di-Sbwriel. Mae hyn yn golygu bod y sefydliadau yma’n cymryd cyfrifoldeb i godi sbwriel yn rheolaidd a glanhau darn o dir.  Mae yna 3 Parth Di-Sbwriel yn Nhorfaen ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’n swyddog atal sbwriel a thipio anghyfreithlon, Oliver James, ar oliver.james@torfaen.gov.uk
  • Hybiau Codi Sbwriel – Rydym yn gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus a chanolfannau cymunedol a busnesau lleol i ddarparu Hybiau Codi Sbwriel.  Gallwch gael a defnyddio offer am ddim fel y gallwch chi godi sbwriel yn eich ardal leol.  Mae fanylion eich hwb lleol isod. Edrychwch ar wefannau hybiau neu eu tudalennau Facebook am amserau agor.
    • Circulate Furniture Recycling, Blaenafon
    • Partneriaeth Costar, Y Ddôl Werdd
    • Cyngor Cymuned Cwmbrân, Ventnor Road, Cwmbrân
    • Partneriaeth Garnsychan, Abersychan
    • Canolfan Ymwelwyr a Gweithgareddau Llyn Llandegfedd
    • Marchnad Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl
    • Canolfan Gymunedol Bryn Eithin, Cwmbrân
    • Sero Gwastraff Torfaen, Pentre Isaf

Beth allwch chi wneud?

Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Streetscene

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig