Gosod Posteri'n Anghyfreithlon - Adrodd a Gwaredu

Mae gosod posteri'n anghyfreithlon yn cynnwys clymu neu osod arwyddion, posteri neu sticeri heb ganiatâd wrth waliau, arwyddion ffyrdd, polion lampau, rheiliau neu fannau eraill, a hynny er buddiant masnachol fel arfer. 

Nid yn unig y mae hyn yn anghyfreithlon, ond mae hefyd yn tynnu sylw a gallai fod yn beryglus i ddefnyddwyr ffyrdd yn ogystal â rhoi argraff negyddol o ardal.

Mae gosod posteri'n anghyfreithlon yn drosedd o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 a Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Mae modd rhannu gosod posteri'n anghyfreithlon yn bedwar categori bras, a phob un ohonynt â'u nodweddion a'u problemau rheoli eu hunain:

  • Hysbysebion ar gyfer digwyddiadau lleol yn bennaf, sy'n aml ar ffurf nifer fawr o lungopïau sy'n cael eu gosod yn rheolaidd. Gallai'r rhain hysbysebu arwerthiannau cist car neu fandiau sy'n chwarae mewn tafarndai. Gallant fod wedi'u rhoi wrth bolion lampau, rheiliau neu eu gludo wrth adeiladau.
  • Posteri'n hysbysebu cynhyrchion sefydliadau mawr ac sy'n cael eu gosod gan 'gwmnïau' posteri proffesiynol. Fel arfer, mae'r rhain yn bosteri mawr lliw o ansawdd da, er enghraifft ar gyfer recordiau newydd. Maent yn aml yn cael eu gludo wrth adeiladau gwag a blychau cwmnïau ffôn/rheoli signalau.
  • Posteri sy'n cael eu harddangos gan grwpiau pwyso neu gyrff gwleidyddol. Mae'r rhain i'w gweld hwnt ac yma ac nid oes patrwm clir i'w lleoliad.
  • Baneri pen-blwydd sy'n cael eu gosod wrth bontydd ac ar y briffordd.

Gall gosod posteri'n anghyfreithlon hefyd arwain at fathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallai graffiti a difrod i waliau a dodrefn stryd ddigwydd mewn mannau lle y gosodir posteri'n anghyfreithlon. 

Mae nifer o wahanol ddulliau y gall trefnwyr digwyddiadau eu defnyddio i hysbysebu heb ddifetha'r ardal trwy osod posteri'n anghyfreithlon. Mae'r rhain yn cynnwys ffenestri siopau, ar y radio, mewn papurau newydd, ar y rhyngrwyd, mewn canolfannau croeso, trwy ddosbarthu taflenni ac mewn cylchgronau lleol - dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain.

Sut ydym yn delio â phosteri anghyfreithlon

Mae'r rhan fwyaf o'r posteri a'r taflenni a welwn ar waliau o amgylch Torfaen yn cael eu rhoi i fyny yn gyfreithlon gyda chaniatâd priodol. Weithiau, mae posteri ar gyfer gweithgareddau, digwyddiadau a hysbysebion eraill yn cael eu rhoi i fyny heb unrhyw ganiatâd.

Ein nod yw cael gwared ar bosteri anghyfreithlon o eiddo cyhoeddus, dodrefn stryd a'r briffordd o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i ni gael gwybod amdano.

Bydd y Cyngor yn cael gwared ar unrhyw arwyddion anghyfreithlon sydd wedi cael eu gosod heb ganiatâd. Fodd bynnag, byddwn yn ymchwilio'n ymhellach i arwyddion sy'n cael eu gosod yn anghyfreithlon, a hynny'n gyson gan yr un cwmni / unigolyn a gellir cymryd camau pellach. 

Beth allwch chi ei wneud am bosteri anghyfreithlon

Os welwch chi boster anghyfreithlon yn eich ardal ac os yw’r poster hwnnw yn distrywio neu’n amharu ar arwyddion stryd neu adeiladau dylech alw Street Scene ar 01495 762200.

Pe byddech yn medru dweud y canlynol wrthym byddai hynny’n ddefnyddiol iawn:

  • Lleoliad y poster anghyfreithlon
  • Natur y cynnwys. A yw’n ymosodol neu’n peri niwsans yn unig?
  • Unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Streetscene

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig