Biniau Sbwriel

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn annog pawb i gael gwared ar eu sbwriel gan ddefnyddio bin sbwriel yn hytrach na’i daflu i’r llawr. Bydd defnyddio biniau sbwriel yn helpu i wella’r amgylchedd lleol lle’r ydym ni i gyd yn byw. Gall biniau sbwriel / baw cŵn gael eu defnyddio at y naill ddiben a’r llall os yw’n atal sbwriel rhag cael ei daflu i’r llawr.

Mae sbwriel mewn mannau cyhoeddus yn hyll ac mae'n creu argraff negyddol o ardal. Hefyd, mae'n beryglus i anifeiliaid a phlant bach, mae'n drosedd a gall achosi plâu o lygod mawr a mathau eraill o fermin. Mae sbwriel yn amrywio o bapur lapio un losinen i fag llawn sbwriel.

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn datgan bod unigolyn yn cyflawni trosedd sbwriel os yw'n gollwng, taflu, gosod neu adael urnhyw beth sy'n difwyno man cyhoeddus. Mae unigolyn yn euog o drosedd os yw'n taflu, gollwng neu osod sbwriel yn yr awyr agored (ar dir neu mewn dŵr) ac yn ei adael yno.

Mae Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 yn ymestyn y diffiniad o sbwriel. Mae'n cadarnhau mai sbwriel yw gwm cnoi bonion sigarét a gall unrhyw un sy'n cael ei ddal yn gollwng y rhain gael ei ddirwyo.

Gellir cyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £75 i unrhyw un sy'n cyflawni'r drosedd hon mewn man cyhoeddus. Gallai gwrthod talu'r ddirwy arwain at erlyniad, a gallai erlyniad llwyddiannus arwain at ddirwy o hyd at £2,500.

Sawl bin sydd ar gael?

Mae dros 700 o finiau sbwriel ym Mwrdeistref Sirol Torfaen a dros 35 o finiau baw cŵn.

Pa mor aml y caiff y biniau eu gwacáu?

Mae biniau sbwriel sydd mewn canolfannau siopa yn cael eu gwacáu yn ddyddiol; mae biniau ar draws y Fwrdeistref Sirol yn cael eu gwacáu yn wythnosol.

Pwy y dylwn i gysylltu â nhw os na chaiff bin sbwriel ei wacáu?

I roi gwybod am broblem gyda bin sbwriel, rhoi gwybod am fin sy'n llawn neu ofyn am gael bin sbwriel wedi'i osod mewn lleoliad newydd, rhowch alwad i ni ar 01495 762200 neu anfonwch e-bost at y tîm Strydlun.

I roi gwybod am gasgliad a fethwyd neu ddifrod i fin sbwriel, bydd angen i chi roi'r manylion canlynol:

  • Lleoliad y bin(iau) sbwriel
  • Eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Disgrifiad byr o'r broblem

A allaf i roi sbwriel o'm cartref mewn bin cyhoeddus?

Ni ddylech roi gwastraff o gartrefi mewn biniau sbwriel, gan fod hyn yn drosedd. 

A all busnes ddefnyddio bin sbwriel ar gyfer gwastraff masnachol?

Byddwn yn ymchwilio i adroddiadau am gamddefnyddio biniau, ac yn enwedig adroddiadau am fusnesau sy'n gadael gwastraff masnachol mewn biniau sbwriel. Yn achos yr adroddiadau hyn, bydd Swyddog Amgylcheddol yn ymweld â'r safle ac yn ceisio dod o hyd i dystiolaeth a allai arwain at gyflwyno dirwy.

Beth am sbwriel gan bobl sy'n dosbarthu taflenni?

O fis Ebrill 2006 ymlaen, cafodd y Cyngor fwy o bwerau i helpu i wella'r amgylchedd yn sgil cyflwyno adran arall o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Mae hyn bellach yn gallu cyfyngu ar ddosbarthu taflenni a phamffledi a allai greu sbwriel. Mae hyn yn digwydd mewn ardaloedd dynodedig a bydd pobl yn gallu gwneud cais am drwyddedau i ddosbarthu taflenni yn yr ardaloedd hynny.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Strydlun

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig