Adnoddau Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Fflyd Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Mae ein fflyd cynnal a chadw’r gaeaf yn cynnwys :

  • Mae saith o gerbydau graeanu mawr y gellir eu gosod gydag erydr eira
  • Dau gerbyd graeanu bach
  • Day aradr bach 

Halen

Mae'r halen craig a ddefnyddir gan y Cyngor yn halen craig confensiynol 6mm.

Biniau Halen

Ar hyn o bryd mae gennym dros 700 o finiau halen wedi eu lleoli ledled Torfaen. Mae’r biniau hyn yn cael eu cyflenwi a'u cynnal er mwyn i’r cyhoedd eu defnyddio fel ymateb cyntaf i rhew neu eira ar ffyrdd a llwybrau troed a fabwysiadwyd yn unig. Nid yw biniau yn cael eu cyflenwi i strydoedd preifat ac ni ddylai'r halen o'r biniau gael ei ddefnyddio ar dramwyfeydd neu lwybrau preifat. Mae halen ar gael i'w brynu gan gyflenwyr adeiladwyr lleol i'w defnyddio ar eiddo preifat.

Mae'r biniau wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae problemau hysbys fel ardaloedd â graddiant serth neu safleoedd sy’n dueddol o rewi. Nid yw’r biniau fel arfer yn cael eu lleoli mewn ardaloedd gwastad lle, fel rheol, gellid teithio ar y ffyrdd gyda gofal hyd yn oed yn yr amodau gwaethaf. Nid oes biniau newydd fel arfer yn cael eu lleoli ar ffyrdd sydd eisoes yn ffurfio rhan o brif lwybrau graeanu ac mae isafswm pellter o 100m rhwng biniau ystyried yn synhwyrol.

Bob blwyddyn rydym ond yn gallu fforddio prynu nifer penodol o finiau newydd. Mae rhai yn cael eu defnyddio i gymryd lle biniau sydd wedi eu colli neu eu difrodi a'r gweddill ar gael i ateb ceisiadau newydd. Gellir gofyn am finiau newydd drwy gysylltu â Galw Torfaen ar 01495 762200. Bydd pob cais yn cael ei ystyried a'i flaenoriaethu a bydd bin newydd yn cael ei ddarparu os yw'r cais yn llwyddiannus, yn dibynnu ar argaeledd bin. Yn anffodus, mae cam-drin a fandaliaeth yn golygu bod gennym lai o finiau ar gael i ateb ceisiadau newydd bob gaeaf. Rhowch wybod i ni neu'r Heddlu am unrhyw ddigwyddiadau.

Mae'r biniau yn cael eu llenwi fel mater o drefn ar ddechrau pob gaeaf ac ar ôl digwyddiadau eira mawr. Os hoffech i ni i ailgyflenwi eich bin halen lleol, cysylltwch â Galw Torfaen ar 01495 762200. Mewn adegau o brinder halen, fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf, efallai na fydd biniau halen yn cael ei hail-lenwi er mwyn gwarchod stociau ar gyfer trin y prif lwybrau graeanu.

Yn olaf, defnyddiwch yr halen o'r biniau yn gynnil. Does dim angen haen drwchus o halen er mwyn iddo fod yn effeithiol; y dull mwyaf effeithiol yw rhoi rhywfaint mewn bwced a’i ledaenu gyda llwyaid fach neu â llaw a maneg. Dylid clirio eira yn gyntaf os yn bosibl cyn gosod yr halen.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Highway Networks

Ffôn: 01495 766747

Nôl i’r Brig