Cynllun Trafnidiaeth Lleol Cymoedd De Ddwyrain Cymru

Mae Cynllun Trafnidiaeth Lleol Cymoedd De-ddwyrain Cymru, a grëwyd ar y cyd gan Gynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn gosod blaenoriaethau’r awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth yn ystod y cyfnod o 2015 hyd nes 2020, a’u dyheadau tymor canolig i dymor hirach hyd nes 2030.

Mae’r ddogfen hefyd yn amlinellu polisïau’r cynghorau ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth diogel, integredig, effeithlon ac economaidd i’w hardal, o’u hardal ac o fewn eu hardal.

Mae Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol ar draws Cymru wedi cymryd lle Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2015.

Gellir lawrlwytho copi o Gynllun Trafnidiaeth Lleol Cymoedd De-ddwyrain Cymru yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig