Cyngor ar Yrru yn y Gaeaf


Mae cynnal a chadw cerbydau yn dda yn arbennig o bwysig yn y gaeaf. Sicrhewch fod eich batri wedi'i wefru'n llawn, bod digon o wadn ar eich teiars, eu bod y pwysau cywir, a bod eich sychwr ffenestr a’ch goleuadau yn gweithio'n iawn. Ychwanegwch wrthrewydd yn y rheiddiadur ac at eich hylif golchi sgrin.

Yn ystod tywydd gaeafol

  • Gofynnwch i chi'ch hun – a yw eich taith yn hollol hanfodol?
  • Gwiriwch y rhagolygon tywydd lleol a chenedlaethol
  • Gwrandewch ar radio lleol a chenedlaethol am wybodaeth teithio
  • Dywedwch wrth rywun yn eich cyrchfan pryd rydych yn disgwyl cyrraedd
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad cynnes, bwyd, esgidiau cadarn a thortsh. Mewn eira, cymerwch raw
  • Cliriwch eich ffenestri a’ch drychau cyn cychwyn, ac ewch â chrafwr sgrin a gwrthrewydd
  • Addaswch eich gyrru i'r amodau – mae cesair, eira trwm a glaw yn lleihau gwelededd, felly defnydd oleuadau wedi'u gostwng a gyrrwch yn arafach

Awgrymiadau gyrru ar gyfer tywydd rhewllyd

  • Byddwch yn wyliadwrus o ardaloedd cysgodol lle nad yw rhew wedi toddi
  • Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu gweld yn glir a chael eu gweld
  • Defnyddiwch brif lwybrau lle bo'n bosibl
  • Gyrrwch yn ofalus  gan ganiatáu mwy o bellter i stopio - gall gymryd deg gwaith mwy o amser i stopio mewn amodau rhewllyd nag ar ffordd sych
  • Gyrrwch yn araf , gan ganiatáu lle ychwanegol i arafu a stopio
  • Defnyddiwch y gêr uchaf posibl i osgoi troelli
  • Rhaid llywio yn ofalus, gan osgoi cyflymu’n chwim, brecio’n galed neu eu troi’r llyw yn sydyn
  • I frecio ar rew neu eira heb gloi eich olwynion, newidiwch i gêr isel yn gynt nag arfer i ganiatáu i'ch cyflymder syrthio a defnyddiwch y pedal brêc yn ysgafn
  • Os byddwch yn dechrau llithro, codwch eich troed oddi ar y sbardun ond peidiwch â brecio'n sydyn
  • Gwiriwch bwysau teiars eich cerbydau, dyfnder y gwadn, goleuadau, sychwyr ffenestr, potel golchwr, gwrthrewydd a lefel y batri

Awgrymiadau Gyrru ar gyfer eira trwm

  • Dim ond gyrru os oes angen
  • Gwisgwch yn gynnes a byddwch yn barod os ydych yn cael trafferthion
  • Os ydy hi’n bwrw eira ac yn wyntog, dylech osgoi teithio os oes modd
  • Byddwch yn ofalus o amgylch cerbydau cynnal a chadw'r gaeaf. Cadwch bellter diogel tu ôl i lorïau sy’n rhoi halen ar y ffyrdd ac erydr eira, a pheidiwch â cheisio mynd heibio. Gwyliwch allan am fanciau o eira taflu i fyny gan yr aradr

Problemau tywydd gaeafol arall

  • Rhew du, sy'n anodd ei weld ar wynebau ffyrdd.
  • Barrug, lle mae grisialau rhew yn ffurfio ar wyneb y ffordd ac yn ei gwneud yn llithrig
  • Glaw rhewllyd, sy'n digwydd pan fydd glaw yn disgyn ar arwynebau oer iawn ac yn rhewi. Mae'n anghyffredin iawn ond yn eithriadol o anodd i ddelio ag e oherwydd mae unrhyw halen sydd wedi ei ledaenu cyn i'r glaw cychwyn fel arfer yn cael ei olchi i ffwrdd ac yna mae angen mwy o halen ar y ffyrdd i’w hail drin.
  • Cadwch sbectol haul wrth law - gall haul y gaeaf fod yn beryglus

Cyn ac yn ystod y gaeaf - beth allwch chi ei wneud

Cyn bod y gaeaf yn cyrraedd, gwiriwch fod...

  • eich cerbyd wedi cael ei gynnal/ei wasanaethu
  • teiars sydd â dyfnder gwadn da (gan gynnwys teiar sbâr) ar eich cerbyd
  • gwrthrewydd y cryfder cywir yn system oeri eich cerbyd
  • sychwyr ffenestri a wasieri eich cerbyd yn gweithio'n iawn
  • y poteli golchwr yn llawn ac yn cynnwys ychwanegyn addas i atal rhewi
  • crafwr sgrin a gwrthrewydd gyda chi
  • eich batri mewn cyflwr da, yn llawn ac wedi ei wefru'n llawn

Cyn gyrru mewn tywydd gaeafol, gwiriwch ...

  • y radio / teledu lleol a chenedlaethol ar gyfer gwybodaeth teithio a'r tywydd
  • bod holl oleuadau eich cerbydau yn lân ac yn gweithio
  • bod yr holl ffenestri a drychau yn glir rhag rhew ac eira

Mewn amgylchiadau eithafol, gofynnwch i chi'ch hun ...

  • ydy eich taith angenrheidiol
  • a ydych chi wedi gwirio rhagolygon y tywydd a chyflwr y ffyrdd ac ystyried yn ofalus y cyngor a roddwyd
  • oes gennych danc llawn o danwydd rydych
  • a oes unrhyw un yn gwybod eich cyrchfan a’ch amser cyrraedd disgwyliedig
  • oed gennych chi ddillad cynnes, diodydd poeth, bwyd, esgidiau glaw, tortsh a rhaw.

Cofiwch, mewn amodau rhew ac eira mae angen traffig i helpu a gwasgaru’r halen.

  • Nid yw pob ffordd yn cael eu trin
  • Cadw at brif ffyrdd sydd wedi eu trin gyda halen
  • Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith mewn tywydd gaeafol
  • Gall oedi'r adeg y byddwch yn gadael gwaith yn helpu i leihau gorlawnder.

 Wrth yrru mewn tywydd gaeafol, gwiriwch eich bod...

  • yn gyrru gyda gofal sy’n addas i'r amgylchiadau ar ffyrdd sydd wedi eu trin a rhai sydd heb
  • yn lleihau eich cyflymder mewn amodau eira a rhew
  • yn gyrru yn y gêr uchaf posibl i helpu i gadw rheolaeth ar y cerbyd
  • yn osgoi brecio a chyflymu'n sydyn
  • yn cynnal pellter stopio diogel yn addas ar gyfer yr amodau cyfredol
  • yn defnyddio goleuadau wedi'u gostwng pan mae gwelededd yn wael ac eira
  • yn defnyddio goleuadau niwl cefn mewn gwelededd gwael ac yn eu diffodd pan fydd amodau yn gwella
  • yn gwylio allan am ddefnyddwyr eraill y ffyrdd, gan gynnwys beiciau modur a phedal, cerddwyr a phlant yn chwarae.

Os ydych yn mynd i drafferth ...

  • arhoswch gyda'ch cerbyd os yn bosibl hyd nes daw help
  • os oes rhaid i chi adael eich cerbyd, sicrhewch eich bod yn weladwy i ddefnyddwyr eraill y ffordd
  • os oes rhaid i chi adael eich cerbyd rhowch wybod y manylion i’r heddlu lleol (0845 60 60 60 6) a pharciwch eich cerbyd yn y fath fodd ag i sicrhau nad ydych yn rhwystro cerbydau cynnal a chadw’r Gaeaf sy’n ceisio trin y ffyrdd. Cofiwch, mae lorïau rhoi halen ar y ffyrdd yn ddwywaith y lled car.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Highway Networks

Ffôn: 01495 766747

Nôl i’r Brig