Beicio Oddi ar y Ffordd

Os byddwch yn reidio eich cerbyd modur ‘oddi ar y ffordd’ o amgylch Torfaen, y tebygolrwydd yw eich bod yn torri'r gyfraith.

Ble ydych chi'n reidio’ch beic? A oes caniatâd i reidio yno? Sut ydych chi'n cludo’r cerbyd i'r man reidio?

Mae beiciau modur mini a beiciau treial yn mynd yn fwy a mwy poblogaidd, ac mae'n bwysig bod pobl yn dod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ynghylch reidio’r beiciau hyn ar y ffyrdd ac ar dir cyhoeddus cyn iddynt brynu rhywbeth mor ddrud.

Mae Heddlu Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn derbyn galwadau bob wythnos gan aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno rhoi gwybod iddynt am gerbydau oddi ar y ffordd sy’n cael eu gyrru o gwmpas cefn gwlad. Mae cerbydau yn cynnwys beiciau moto cross, beiciau treial, mini-motos, beiciau cwad ac unrhyw gerbyd arall a yrrir yn fecanyddol sy'n cael eu hadeiladu ar gyfer defnydd oddi ar y ffordd ac ni ddylid eu defnyddio ar ffyrdd a phalmentydd cyhoeddus neu mewn mannau cyhoeddus.

Os hoffech reidio cerbydau oddi ar y ffordd, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau hyn er mwyn sicrhau eich bod yn reidio yn gyfreithlon:

  • Ni Ddylech: Reidio ar dir, parciau, palmentydd na llwybrau cyhoeddus
  • Ni Ddylech: Ride beiciau heb drwydded ar ffyrdd cyhoeddus
  • Dylech: Defnyddio fan neu drelar bob amser i gludo'r cerbyd oddi ar y ffordd i'r ardal reidio ddilys. Ar hyn o bryd nid oes ardaloedd cyfreithlon yn Nhorfaen, ond rydym yn gweithio ar ateb i hyn.

Os na fyddwch yn dilyn y canllawiau hyn byddwch yn torri'r gyfraith. Rydych yn rhedeg y risg:

  • O’ch beic yn cael ei atafaelu a'i falu
  • O dderbyn dirwy drom
  • Os ydych yn gallu adennill eich beic ar ôl ei atafaelu, bydd disgwyl tâl o fwy na £100
  • O bwyntiau ar eich trwydded yrru neu ar drwydded yrru eich rhieni
  • Anghymhwyso
  • Carcharu
  • Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Hawliad sifil anghyfyngedig
  • O anaf difrifol i chi eich hun ac i eraill

Beth allwch chi ei wneud i helpu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi sefydlu ffurflen ddienw lle gall unrhyw un fewngofnodi a rhoi gwybod am achosion o feicio oddi ar y ffordd yn ddienw a bydd yr Heddlu dilyn yr achosion i fyny.

Mae yna dros 80 o draciau o amgylch y DU. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i reidio yn gyfreithlon cysylltwch â'r Undeb Auto-cycle, sef y corff llywodraethu ar gyfer y gamp. Byddant yn gallu rhoi manylion i chi o leoliadau rhanbarthol a newyddion diweddaraf. E-bostiwch admin@acu.org.uk neu ewch i www.acu.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Uned Cefnogi Gwasanaethau Cyhoeddus - Diogelwch Cymunedol

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig