Derbyn i Ysgolion - Ysgolion Meithrin

Yn Nhorfaen mae yna amrywiaeth o leoliadau ar gael i blant o oed meithrin a hynny’n rhai a gynhelir gan yr Awdurdod ac o fewn y sector preifat a’r sector gwirfoddol.

Polisi’r Awdurdod yw derbyn plant i’w ysgolion meithrin a’i unedau meithrin (y'u gelwir yn ddosbarthiadau meithrin a gynhelir) o ddechrau’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed. (Tymor yr Hydref yw 1 Medi - 31 Rhagfyr, Tymor y Gwanwyn yw 1 Ionawr - 31 Mawrth, Tymor yr Haf yw 1 Ebrill - 31 Awst).

Dyrennir lleoedd rhan amser (sesiynau boreol neu brynhawn yn unig) dros bum diwrnod yr wythnos. Dan rhai amgylchiadau eithriadol, gellir cynnig lleoliadau llawn amser i blant 4 oed.

Os ydych yn dewis i’ch plentyn fynychu dosbarth meithrin yn y sector preifat neu wirfoddol, sydd wedi ei gymeradwyo gan Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru, ac wedi cofrestru fel darparwr addysg gan yr ALl, bydd yr Awdurdod yn ariannu lleoliad eich plentyn yn rhan amser (o leiaf 10 awr addysgol dros 4 neu 5 sesiwn yr wythnos neu 3 diwrnod llawn)(isafswm o 7 awr y dydd).

Bydd lefel y cyllid yn cymharu â’r lefel a ddarperir ar gyfer plentyn pedair oed mewn lleoliad a gynhelir ac ar hyn o bryd mae hyn yn gyfwerth â £10 y dydd yn dilyn pen blwydd y plentyn yn dair oed.

Os bydd plentyn yn mynychu Meithrinfa Ddydd Breifat, y rhieni fydd yn gyfrifol am unrhyw daliadau ychwanegol sydd yn uwch na’r cyllid a ddyrennir gan yr ALl.

Derbyniadau Medi (Ionawr /Ebrill) 2024

Y dyddiad cau ar gyfer derbyniadau Medi 2024 oedd dydd Gwener 21ain Gorffennaf 2023 (hanner dydd). Felly, bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir yn cael eu trin nawr fel ceisiadau hwyr ac yn cael eu prosesu fesul mis.

Dychwelwch eich cais i’r ysgol feithrin yr ydych yn dewis os gwelwch yn dda gyda’r dogfennau prawf gofynnol

Gallwch lawrlwytho Ffurflen Ysgol Feithrin - Dderbyn 2024 neu, fel arall, gallwch gael un trwy gysylltu â’r adran derbyniadau Ysgol trwy school.admissions@torfaen.gov.uk.

Bydd rhieni’n cael gwybod am ganlyniad eu cais trwy law'r Adran Addysg erbyn 15fed Medi 2023 (4 oed Medi 2024 a chodi’n 3 oed Ionawr 2024). I’r disgyblion hynny sydd wedi gwneud cais ar gyfer codi’n 3 oed Ebrill, byddwch yn cael gwybod erbyn dydd Gwener 26ain Ionawr 2024.

Dylai rhieni/gofalwyr sy’n dewis lleoliad preifat neu wirfoddol fynd â’r ffurflen gais at leoliad eu dewis, a fydd yn gwneud cais ar gyfer ariannu ar eu rhan.

Mae manylion llawn y ddarpariaeth Feithrin sydd gan yr Awdurdod i’w cael yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr neu drwy gysylltu â school.admissions@torfaen.gov.uk i ofyn am gopi papur. Gellir cael manylion hefyd yn uniongyrchol gan yr ysgolion.

Gellir cael manylion darparwyr gwirfoddol a phreifat gan Reolwyr y cylch chwarae a Meithrinfeydd Preifat neu yn Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr.

Am fwy o wybodaeth am dderbyniadau i Gylchoedd Chwarae, Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd Preifat, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen ar 08000 196330 neu drwy e-bost fis@torfaen.gov.uk.

Mae manylion Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru (30 awr o Ofal Plant) i’w gweld yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbyniadau ysgol

Ffôn: 01495 766915

Nôl i’r Brig